Peryglon hiwmor
Mae hiwmor yn rhywbeth personol. Mae j么c dda i un yn j么c s芒l ar y naw i un arall.
Wrth fentro i genre y nofel ddigri, felly, mae Geraint V Jones yn cymryd risg anferthol oblegid mae chwaeth bersonol yn golygu na fydd ei hiwmor at ddant pob un darllenwr - er cyn ddonioled yr hanesion.
Mae'r nofel wedi ei lleoli mewn ysbyty, ar ward i bobol oedrannus - C Bay - neu Si B锚i chwedl Wil Bach Saer, y prif gymeriad; hen lanc 70 oed ac undertaker o ran galwedigaeth - sydd braidd yn eironig o ystyried fod y nofel yn troi o gwmpas ei gyfnod ar ward Glasddwr, ysbyty Penrhos.
Ond er gwaethaf ei salwch mae Wiliam J么s o Lanlleidiog mor effro ag erioed i'w amgylchiadau a'r bobl y mae'n cwrdd 芒 nhw.
Bron y gellid trosi'r nofel yn gomedi sefyllfa neu'n sgets un dyn achos yr hyn a geir yma yw dadansoddiad a theithi meddwl un dyn. Mae ei ymwneud 芒'i gyd gleifion - pobl fel Bob Griffiths o Lanrwsutrwsut ym M么n (j么c!) , a'r cyn b锚l-droediwr, Len Morris - yn esgor ar sawl sylw bachog a ffraeth. Felly hefyd y tynnu coes a'r gwatwar sydd rhyngddo a'r staff meddygol. Na, nid rhywun i ymatal rhag datgan ei farn mo'r hen Wil!
Ac yn hynny o beth mae'r nofel yn llawn sylwadau beiddgar a chrafog am natur y Gymru gyfoes.
Gwawdio a dychan
Wrth agor soniais fod hiwmor yn rhywbeth personol. Mae yn y nofel hon ddigonedd o wawdio a dychanu ac ambell i j么c dda hefyd ond ar brydiau terfir ar yr hiwmor am fod yr awdur yn teimlo'r angen i esbonio neu bwysleisio'r punchline.
Enghraifft o hyn yw pan fo Wil yn ceisio sgwrsio ag un o'r cleifion ar y ward ac yntau'n gofyn a yw Churchill wedi cyrraedd. Ymateb Wil yw;
'Isho inshiwrio'ch hun dach chi?'
Yn anffodus mae'n mynd ymlaen i gynnig esboniad...
'Y ci efo'r pen aflonydd sy'n addo rhatach inshiwrans na neb arall ar y teli oedd gen i mewn golwg, wrth gwrs. Ond doedd yr hen greadur ddim yn impresd o gwbwl efo'r j么c.'
Yn hytrach na'r j么cs bwriadol teimlaf fod y golygfeydd doniolaf yn codi o'r sgwrsio naturiol rhwng y cleifion ac ymateb Wil i hynny. Ystyriwch yr olygfa lle mae Moses y gweinidog yn dechrau rhegi a phaldaruo dros y lle a Wil yn ymateb:
'Meddyliwch! Gwnidog yr Efengyl yn gweiddi ac yn rhegi fel 'na! Yn rhegi mwy na g诺r y Cw卯n hyd yn oed! Er, ma'n si诺r mai fel hyn roedd y Moses-go-iawn yn mynd trwy'i betha hefyd ar 么l stryglo i lawr o Fynydd Seinai efo'r lympia cerrig o dan ei fraich a gweld llo aur yn aros amdano.'
Yr iaith
O ddyfynnu, cewch awgrym o'r math o iaith a ddefnyddir ond er bod y Gymraeg lafar yn naturiol iawn ac yn llifo'n rhwydd rhaid cyfaddef i mi ei chael hi'n anodd i'w darllen ar brydiau. Ystyriwch y ddeialog rhwng Wil J么s a'r M锚jyr;
'...Ai wos in North Affrica, iw n么? Ffaiting Romel in ddy desyrt. H芒f iw h欧rd of him?'
'Yes I have, actually,' meddai'r M锚jyr yn 么l, mewn llais digon tebyg i un y Pruns-o-W锚ls ei hun.
'H卯 wos c么ld ddy Desyrt Ffocs, iw n么?...'
'Was he really? Did you have tea with him?'
'Yes, wans or twais. And wi had s峄砿 feri nais cr卯m c锚cs, t诺.'
Mae na enghreifftiau rif y gwlith o'r Saesneg yn cael ei chymysgu 芒'r Gymraeg. Mae hynny, yn naturiol, yn adlewyrchu'r iaith lafar a chefndir y cymeriad - ond mae darllen y Saesneg wedi ei Chymreigio - i mi beth bynnag - yn mynd yn fwrn ar 么l ychydig.
Efallai fod Saesneg Wil yn garbwl ond mae ei Gymraeg yn gaboledig - ac mae hynny yn codi o ddylanwad ei gyn athro Cymraeg arno - Wili Welsh. Dro ar 么l tro mae Wil yn ceisio gwella Cymraeg y 'portars' sydd byth a hefyd yn gorffen brawddegau gydag arddodiaid...
'Pa w么rd tisho mynd i?
' Aclwy mawr! Hwn eto! Ond cau ceg oedd pia hi! Os na ches i lwyddiant efo Cochyn, doedd gen i ddim gobath pluan eira yn Uffarn efo arddodiaid hwn.
Profiadau tywyll
Ond wrth i'r nofel fynd rhagddi a phrofiadau a digwyddiadau tywyll darfu ar y cleifion yn Si B锚i mae hyd yn oed cywirdeb iaith yn dod yn llai pwysig;
'Oes, ma na rwbath yn dod, o bryd i'w gilydd, i'n sobri ni i gyd ac i'n hatgoffa bod na betha amgenach yn yr hen fyd ma na chynganeddion a threigladau trwynol a lleoliad cywir arddodiaid.'
Mae'r nofel hon yn sicr yn chwa o awyr iach. Prin iawn ar y cyfan yw'r nofelau digri yn y Gymraeg ac yn hynny o beth mae mentergarwch Geraint V Jones i'w ganmol.
Er imi fwynhau'r nofel a gwerthfawrogi dawn yr awdur i droi ambell i sylw crafog yn sylwebaeth gyfoes o'r Gymry sydd ohoni - nid oeddwn yn fy nyblau yn chwerthin.
Efallai mai'r hyn sydd i gyfri am hynny yw'r ffaith fy mod yn ferch yn ei thridegau sy'n digwydd dod o'r de orllewin ac nad ar gyfer y gynulleidfa honno y'i hysgrifennwyd.
Wedi dweud hynny, byddwn yn annog unrhyw un o ba bynnag oed a chefndir i'w darllen. A chofiwch, wrth wneud hynny, dalu sylw i'r cartwnau gwych gan yr artist Anthony Kelly. Efallai y daw cyfres gart诺n i ddilyn gyda Wil Bach Saer yn brif gymeriad? Lowri Roberts