28 Ebrill 2011
Ni w锚l y teithiwr talog . . .
Wrth deithio i lawr yr A587 hyd arfordir Ceredigion mae'n syndod pa mor ddall yw rhywun i'r bwrlwm o ddiwylliant sydd ynghudd yn y wlad y naill ochr a'r llall iddi.
mae'r cyfoeth hwnnw yn llifo drwy gyfrol Jon Meirion Jones wrth iddo ein tywys ar ddeg o deithiau drwy'r rhan hon o'r wlad - pob un ohonynt 芒 chysylltiad a T Llew Jones.
Rwy'n cymryd mai'r cyntaf mewn cyfres yw 脭l Troed T. Llew ac mae'n hyfryd meddwl bod rhagor o gyfrolau yn y crochan.
Syniad penigamp oedd dewis yr awdur gyda'r mwyaf poblogaidd erioed ymhlith darllenwyr Cymraeg yn ganolog i'r teithiau. Nifer ohonyn nhw yn cychwyn o'i gartref ym mhentref Pontgarreg lle yr adeiladodd Alun Cilie fyngalo 'Woolaway' ar ei ymddeoliad a gwahodd T Llew a'r Capten Jac Alun hwythau i godi tai yno.
"O hyn y deorodd Heol y Beirdd," meddai Jon Meirion Jones gan gyfeirio at D么l-nant, Pentalar, Pentir a Tawel F么r yn aelwydydd beirdd.
Wrth gychwyn ar ein taith drwy'r gyfrol synhwyrir y byddem yn clywed llawer am y Cilie a'i beirdd ac ni'n siomir. Mae dyfyniadau o waith y beirdd yn llonni'r gyfrol.
Ymweliad 芒'r Cilie ei hun yw'r bedwaredd daith ac englyn Gerallt Lloyd Owen i'n hatgoffa o rin y lle;
Mynnaf nad fferm mohoni - ei hawen
Yw'r cynhaeaf ynddi;
A blaenffrwyth ei thylwyth hi
Yw y grawn geir ohoni.
O blant y Cilie "medrai chwech o'r bechgyn gynganeddu ac amlygwyd ddawn gerddorol drwy'r teulu cyfan," meddai Jon Meirion Jones. "Ymdoddodd T. Llew i mewn i groeso cynnes a chymdeithas Awen y Cilie yn naturiol ac yn ddiffwdan," ychwanega.
Llyfr bach hirgul y gellir yn hawdd ei stwffio i boced cesail yw 脭l Troed ac o bapur trwchus ac wedi ei rwymo'n gryf i ddal traul.
Mae nifer o luniau a map bras ar gyfer pob un o'r deg taith a'r rheini'n amrywio o ychydig filltiroedd i fwy o owting gan alw yng Nghwm Alltcafan, Traeth Pigyn ac yn y blaen.
Does yna ddim cyfarwyddiadau manwl, gam wrth gam, a does yna ddim cyfeirnod ordnans ychwaith. Bydd rhai yn gweld hynny'n rhywfaint o ddiffyg.
Ond fydd hynny'n dramgwydd o gwbl i'r teithiwr cadair esmwyth wrth drafeilio'r dalennau. Caiff fodd i fyw yn dod ar draws straeon difyr fel yr un anhygoel am wraig Tafarn Glanmorllyn, Cwmtydu, "ar ei phengliniau yn golchi llawr y dafarn un bore pan lewygodd a chwympodd ei phen i'r bwced dd诺r - a boddodd".
Y dafarn hon, gyda llaw, yw y Glandon yn nofel Dirgelwch yr Ogof T Llew.
Yn ystod ein hymweliad 芒 Chwtydu - lle hoffai T Llew ddod i fwynhau'r gerwinder ar ddiwrnod stormus - dysgwn hefyd sut y byddai Fred Williams yn cofnodi o bryd i'w gilydd gofnodion yr Home Guard adeg yr Ail Ryfel Byd ar ffurf englynion Saesneg:
Sunday night the three mighty - are on guard
Renegades in bravery;
And I bet these men would be
Injurious to the Jerry.
Mae olion yr Odyn Galch lle cartrefai'r H么m Giard yn dal yno a Jon Meirion Jones yn ailadrodd hanesyn am estron mwy bygythiol na Hitler yn ceisio hawlio'r tir:
"Un o hoff fannau Alun [Cilie] oedd y tir comin ar ben yr odyn galch, ond penderfynodd rhyw Sais ymffrostgar hawlio'r darn cysegredig . . . Bu'n ddigon haerllug i ddod 芒 pheiriant torri porfa i ben yr odyn pan oedd Waldo'n darlithio yno. Ni allai Alun ddioddef y fath haerllugrwydd, a'i ffordd effeithiol o gael gwared 芒'r 'misdemaners' yma oedd gosod eithin o amgylch ar d芒n.
"Wedyn gosodwyd arwyddion 'Private' ar y ddau lwybr a arweiniai i ben yr odyn, ond diflannai'r rheiny cyn gynted ag y rhoddwyd nhw i fyny," meddai gan ychwanegu;
"Erbyn hyn mae'r darn tir yn rhydd i bawb unwaith eto" ac mae llun o Gymdeithas Chwiorydd Rehoboth, Taliesin, ar yr odyn yn mwynhau'r awyrgylch a'r hanesion difyr am T Llew.
A dyna roi blas ar sut gyfrol yn union yw hon. Un naturiol, ymgomllyd a rhywun yn teimlo'n ddiogel wrth gael ei dywys gan gwmn茂wr difyr a gwybodus yn ei bwnc a'i ardal a'i straeon yn diferu'n ddi-ball megis hanes englyn T Llew i geiliog gwynt Eglwys Llangynllo; yr "Hen wyliwr fry mewn helynt - yn tin droi / Tan drawiad y corwynt".
Dywed mai un o hoff gerddi T Llew oedd Fy Nymuniad gan Isfoel;
Mi hoffwn cyn ffarwelio
Gael mynd ar hwylus hynt.
I rodio dros y llwybrau
A gerddais filwaith gynt; ac yn y blaen.
A dyna'n pleser ninnau trwy gyfrwng y gyfrol hon.
Ni w锚l y teithiwr talog? Diolch i Jon Meirion Jones bydd taith yr A487 gryn dipyn cyfoethocach o hyn allan.