成人论坛

Esgid Wag

Mae Esgid Wag yn s么n am brofiadau cwpl wrth iddyn nhw wynebu deng mlynedd diflaniad eu hunig blentyn, Mali.

"Nofel afaelgar yw hi sy'n ymdrin 芒 llawer o faterion anodd gan gynnwys realiti colli plentyn a'r pwysau sydd yn cael ei roi ar berthynas Joyce ac Ian Parry wrth iddyn nhw ymdrechu i ymdopi 芒'r golled," meddai llefarydd ar ran y cyhoeddwyr, Gwasg y Dref Wen.

Ganed Mared ym Malltraeth ac y mae hi'n byw gyda'i g?r a'u dau blentyn yn Llanddaniel, Ynys M么n.

Hyd yn hyn, mae ei gwaith ysgrifennu wedi canolbwyntio ar sgriptio i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd.

Meddai Mared: "Dwi'n falch iawn bod Esgid Wag wedi cael ei dewis yn nofel y mis.

"Mwynheais y broses o sgwennu llyfr, oedd yn brofiad hollol newydd i mi. Cefais ryddid creadigol a'r cyfle i fynd i'r afael a phynciau yn fwy dwys nag sy'n bosib mewn sgript deledu 30 munud.

"Mae'n braf cael cydnabyddiaeth am y gwaith, yn enwedig gan mai hon yw fy nofel gyntaf."

"Ychwanegodd i bobl ymateb yn dda iawn i'r nofel.

"Un peth a'm synnodd oedd y ffaith ei bod I'w gweld wedi apelio at gylch llawer mwy o ddarllenwyr nag oeddwn i wedi ei dybio. Do'n i ddim yn meddwl am gynulleidfa benodol wrth ei sgwennu, ond ro'n i'n meddwl wedyn falla byddai hi'n taro deuddeg efo merchaid yn eu tridegau-pedwardegau.

"Ond dwi wedi cael ymateb ehangach hefyd, o sylwadau da gan ferch bymtheg oed hyd at ddyn yn ei wythdegau! Mae o wedi bod yn brofiad diddorol ofnadwy."

Esgid Wag gan Mared Lewis. Gwasg Y Dref Wen. 拢5.99


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.