成人论坛

Medi 2011

Rhan o glawr Y Daith

Rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r llyfrau a werthodd orau.

Nofel nad oedd yr awdur am ei sgrifennu sydd ar ben rhestr Cyngor Llyfrau Cymru o'r cyfrolau a werthodd orau yn ystod Medi 2011.

Amlygodd Lloyd Jones, awdur Y Daith, ei hun fel un o nofelwyr mwyaf cyffrous Cymru gyda'i nofel Gymraeg gyntaf, Y D诺ra gyhoeddwyd ddwy flynedd yn 么l.

Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi nofelau yn y Saesneg - ac ennill gwobrau efo nhw - ond ar 么l cyhoeddi Y D诺rdywedodd na fyddai byth yn ysgrifennu nofel arall.

"Mi fyddai'n 58 oed cyn bo hir a dwi eisiau blasu bywyd cymaint ag y galla i," meddai ar y pryd.

"Dwi'n mwynhau tynnu llun, ac yn bwriadu mynd ar gwrs celf dros y gaeaf, felly dwi am drio symud i gyfeiriad arall r诺an a gweld y byd cymaint ag y galla i," ychwanegodd.

Bellach, profiodd na ellir cadw nofelydd da yn ddistaw ac wele'r Lolfa yn cyhoeddi ei ail nofel Gymraeg, Y daith.

"Nofel ffraeth ac athrylithgar sy'n cyffwrdd ar ei brofiadau ei hun wrth oroesi alcoholiaeth a chanfod achubiaeth wrth gerdded," meddai'r wasg amdani.

Yn y nofel, mae Mog a Meg Morgan yn byw mewn paradwys, ond fe chwelir llonyddwch y cartref gan ymddangosiad dyn a dynes ifanc yn chwilio am antur. Dyn mewn crisis yw Mog a phan mae Meg yn diflannu cred y bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i'w atebion ei hun, nes cyfarfod Heledd a chychwyn ar daith newydd.

"Roeddwn i methu cau fy mhig!" meddai Lloyd am ei benderfyniad i fynd n么l i sgrifennu. "Roeddwn i'n meddwl bod y llosgfynydd y tu mewn i mi wedi oeri, ond wele lif newydd yn byrlymu i'r wyneb."

Rhywbeth fydd yn destun diolch i'r rhai sydd wedi mwynhau ei weithiau blaenorol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Dyma'r siart yn llawn:

Llyfrau i oedolion

  1. Y Daith, Lloyd Jones (Y Lolfa) 9781847713261 拢7.95


  2. Cythral o D芒n - Cofio 75 Mlynedd Ers Llosgi'r Ysgol Fomio, Arwel Vittle. (Y Lolfa) 9781847713926 拢7.95


  3. Pen Ll欧n Harri Parri, Harri Parri. (Gwasg y Bwthyn) 9781907424151 拢14.95
  4. I Ble'r Aeth Haul y Bore? Eirug Wyn. (Y Lolfa) 9780862434359 拢5.95


  5. Cadw Drws, Meirion Evans. (Gwasg Gomer) 9781848514157 拢6.99


  6. Tarian Tywi - Cofiant y Parch Tywi Jones, Noel Gibbard (Gwasg y Bwthyn) 9781907424168 拢8.95


  7. Cyfres y Cewri: 34. Si芒n James, Si芒n James. (Gwasg Gwynedd) 9780860742722 拢7.95


  8. Traed Mewn Cyffion, Kate Roberts. (Gwasg Gomer) 9780863834806 拢7.99


  9. Caneuon Ffydd - Geiriau'n Unig. (Pwyllgor Caneuon Ffydd) 9781903754009 拢12.95


  10. Cyfrolau Cenedl: 2. Twm o'r Nant - Dwy Anterliwt; Cyfoeth a Thlodi a Tri Chydymaith Dyn, Thomas Edwards. (Dalen Newydd) 9780956651624 拢15.00

Llyfrau Plant

  1. Gwyddoniadur Darluniau Cyntaf i Blant Rily Publications) 9781904357896 拢9.99


  2. Straeon Dau Funud, Gill Guile. (Gwag Carreg Gwalch) 9781845273552 拢6.95


  3. Santa Swnllyd, Sam Taplin. (Gwasg Gomer) 9781848513914 拢9.99


  4. Straeon Nadolig Hudolus, Maureen Spurgeon, Gill Davies (Gwag Carreg Gwalch) 9781845273507 拢6.95


  5. Cerddi Stor茂ol Carreg Gwalch. (Gwag Carreg Gwalch) 9781845273231 拢6.95


  6. Seren Iaith - Gloywi Iaith i Bawb, Bethan Clement, Nona Breese. (Atebol) 9781907004858 拢5.99


  7. Hanes Atgas: Dihirod Diflas a Chymeriadau Chwithig, Catrin Stevens. (Gwasg Gomer) 9781848513785 拢5.99


  8. Cymry Cyflym, Robin Lawrie, Chris Lawrie. (Gwasg Carreg Gwalch) 9781845273200 拢6.95


  9. Un Noswyl Nadolig, M. Christina Butler. (Gwasg Gomer) 9781848513778 拢5.99


  10. Stori'r Nadolig - Peintio Hud. (Cyhoeddiadau'r Gair) 9781859946978 拢5.99

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.