'Niwsans' i awduron!
Wrth recordio cyfweliad ar gyfer y rhaglen Stiwdio yn noson gyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, disgrifiodd un o'r awduron llwyddiannus, Aled Jones Williams, y gystadleuaeth fel "niwsans".
Hynny, am fod cymaint o s么n amdani ac awduron yn poeni a fyddan nhw'n cyrraedd y nod.
Siawns go dda
Tua hanner cant o lyfrau Cymraeg oedd yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, sy'n golygu bod gan bob un ohonynt siawns go dda o'u henwi ar y rhestr o ddeg, a'r siom o fethu 芒 gwneud hynny yn si诺r o fod yn waeth o ganlyniad.
Mae siom ymhlith darllenwyr hefyd os nad yw eu hoff lyfrau nhw wedi plesio'r beirniaid - mae gan bob un ohonom sy'n ddarllenwyr brwd ffefrynnau sy'n haeddu'r clod yn ein barn ni.
A'r peth cyntaf a wnawn wrth ddarllen y rhestr hir felly yw gweld pa rai o'r rheiny sydd heb eu cynnwys.
Yn bersonol, o blith y cyfrolau creadigol byddwn wedi hoffi gweld Yr Anweledig gan Llion Iwan ar y rhestr, yn ogystal 芒'r nofel a'i curodd am y Fedal Ryddiaith y llynedd, O Ran gan Mererid Hopwood.
Er nad yw llyfrau plant yn cael eu hystyried fel arfer, cafodd Annwyl Smotyn Bach - nofel i rai yn eu harddegau gan Lleucu Roberts - ei chynnwys gan yr Academi ar y rhestr o lyfrau cymwys, a byddai cyrraedd y rhestr hir wedi tynnu sylw rhagor o oedolion at y gyfrol ragorol hon.
Ni fyddwn wedi synnu gweld sawl bardd yno eleni: Iwan Llwyd, Eurig Salisbury a T James Jones, er enghraifft, ond ym marn y beirniaid roedd deg llyfr arall yn rhagori ar y rhain.
Y deg
Felly dyma nhw'r deg llyfr llwyddiannus.
- Pedair nofel: Y Maison du Soleil gan Mared Lewis, Yn hon bu afon unwaith gan Aled Jones Williams, Teulu L貌rd Bach gan Geraint V Jones, a Petrograd gan Wiliam Owen Roberts.
- Un gyfrol o farddoniaeth wedyn - Bore Newydd gan Myrddin ap Dafydd.
- Un hunangofiant - Bwystfilod Rheibus gan Robyn L茅wis;
- Lllyfr taith Hefin Wyn, Pentigili;
- Portreadau gan Harri Parri: Iaith y Brain ac Awen Brudd;
- Cyfrol Gwilym Prys Davies, Cynhaeaf Hanner Canrif: Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005;
- A llyfr J Towyn Jones ar y goruwchnaturiol, Rhag Ofn Ysbrydion.
Cymaint yn trafod
Mae'r ffaith bod cynifer o bobl bellach yn trafod Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn yn arwydd sicr bod y gystadleuaeth wedi ennill ei phlwyf erbyn hyn yn y calendr llenyddol Cymraeg.
Mae'n wobr sy'n codi cwestiynau bob blwyddyn: sut gall y beirniaid gymharu cyfrol sy'n ffrwyth llafur blynyddoedd o waith ymchwil gyda nofel boblogaidd, er enghraifft?
Oes angen ei rhannu'n gategor茂au gwahanol?
Mewn ymateb eleni mae nifer o restrau amgen wedi'u creu gan feirniaid eraill, ac mae'r ffaith fod anghytundeb rhyngddynt yn profi mai goddrychol - os nad mympwyol - yw rhestrau fel hyn, yn anorfod felly.
Mantais y beirniaid
Ond mae gan y beirniaid swyddogol: Luned Emyr, yr Athro Gwyn Thomas a'r Athro Derec Llwyd Morgan, fantais ar y rhan fwyaf ohonon.
Mae'n debyg - ond rydw i'n barod i gael fy nghywiro - mai nhw'n unig sydd wedi darllen pob un o'r llyfrau cymwys ac er y gallwn - ac y byddwn - yn anghytuno 芒 nhw, mae'r ffaith iddyn nhw ddarllen pob llyfr yn rhoi rhagor o hygrededd i'w dewis.
Ymlaen 芒'r dadlau felly - ac ymhen llai na mis, byddwn yn clywed pa dri llyfr sydd ar eu rhestr fer, gan agor y bennod nesaf yn y drafodaeth flynyddol, ddifyr hon.