成人论坛

Her awdur llyfr ysbrydion

Rhan o glawr y llyfr

Herio darllenwyr i ddarllen yng ngolau cannwyll!

J Towyn Jones - gweinidog ar drywydd seicig

Mae awdur llyfr am ysbrydion wedi herio darllenwyr i ddarllen y llyfr yng ngolau cannwyll - a'u cefnau at gwpwrdd a'i ddrws yn gil agored!

Meddai J Towyn Jones adeg cyhoeddi Rhag Ofn Ysbrydion:

"Fe heria i chi, beth bynnag fo'ch safbwynt ar ysbrydion, i ddarllen y gyfrol hon am hanner nos yng ngolau cannwyll o flaen hen wardrobe a'r drws yn gil agored a'ch cefn ato.

"A gwneud hynny heb droi rownd unwaith i edrych dros eich ysgwydd - mi fyddwn i'n dweud fod hynny bron yn amhosib!"

Clawr y llyfr

Yn weinidog wrth ei alwedigaeth mae J Towyn Jones yn dra adnabyddus fel casglwr straeon ysbrydion ac fel un a diddordeb dwfn yn y seicig 芒'r paranormal.

Ac yn y gyfrol ddiwedaraf hon o'i eiddo mae'n cynnig yr hyn y mae'n ei galw yn "dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth gan lygad-dystion" am ymweliadau gan ysbrydion.

Ac yntau'n weinidog yng Nghaerfyrddin mae'n naturiol i'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth ddod o Ddyfed.

Wrth droed y gwely!

Mae'r straeon yn amrywio o hanesion am ysbrydion wrth droed y gwely i straeon am orymdaith gan fynachod ar hyd ffordd unig.

"Ceir yma ymchwil oes i godi gwallt eich pen," meddai'r cyhoeddwyr, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.

. Mynnir bod Rhag Ofn Ysbrydion yn torri tir newydd yn y Gymraeg ym maes ymchwil i'r anwel.

"Ac y mae yma ddigon o dystiolaeth i ysgogi amheuaeth yn y sgeptig mwyaf hyd yn oed," meddir.

Yn bump oed

Mae diddordeb J Towyn Jones mewn ysbrydion a'r anesboniadwy yn ddiarhebol ac yn dyddio'n 么l i'w blentyndod.

"Ar noson o eira mawr yn 1947 pan oeddwn i'n blentyn yn byw mewn ffermdy uchel, unig fe ddaeth dau gymeriad lleol heibio, Dan Waun Lwyd a John Plas Newydd.

"Gan fod y storm wedi dod a mantell dew o eira dros y wlad, fe dreuliodd y ddau'r noson acw yn adrodd straeon ysbryd o flaen y t芒n. Er mai dim ond pump oed oeddwn i ar y pryd, dwi'n cofio eistedd ar fainc o flaen y t芒n ac roeddwn i'n hooked ar straeon y ddau," meddai.

O'r noson honno tyfodd y diddordeb a daeth Towyn Jones yn gasglwr, dadansoddwr a dehonglwr straeon ysbrydion gyda'r mwyaf adnabyddus yng Nghymru.

Hen ddogfennau

Golygai mynd ar drywydd ambell stori dwrio drwy Gyfrifiadau, cofrestri claddu, adroddiadau papurau newydd ac hyd yn oed bapurau crwner a sawl cwest.

Ond er cymaint ei ddiddordeb yn y pwnc a'i wybodaeth amdano mae'n gorfod cyfaddef na welodd ef ei hun erioed ysbryd a'i lygaid ei hun - er iddo gael yr hyn a alwodd yn sawl profiad iasol a gododd ofn gwirioneddol arno.

"Beth sy'n gwneud dyn weithiau'n fwy ofnus na'i gilydd? Weithiau fyddwn ni ddim yn ofni dim, ond dro arall bydd gan ddyn ofn ei gysgod. Ai cyflwr dyn yw hynny neu a oes yna rywbeth arall ger llaw sy'n codi'r ofn?" holodd.

Naw rhan

Wedi ei rhannu'n naw adran mae ei gyfrol newydd yn cynnig arolwg dadansoddol o nifer o agweddau o fyd ysbrydion - er enghraifft, wrth drafod poltergeistiaid yn gyffredinol mae ymchwiliad i achosion penodol.

Felly hefyd gyda bwganod plastai, eglwysi, doniau rhyfeddol ambell unigolyn, a rhai ymddangosiadau arswydus o ddychrynllyd.

Cyhoeddir Rhag Ofn Ysbrydion - Chwilio am y Gwir am Straeon Ysbryd gan Gymdeithas Lyfrau Ceredigion. 拢9.99


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 成人论坛 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.