Fedra i ddim cofio gweld drama lwyfan gyda deialog mor rhwydd a doniol, clyfar, hanner Cymraeg a hanner Saesneg, eto'n asio'n gyfanwaith cyfoethog.
Iaith gref, felly fedra i ddim dyfynnu llawer ar gyfrwng mor barchus a gwefan y 成人论坛.
Y Llwyth yw criw o ddynion hoyw sy'n byw yng Nghaerdydd ac mae Aneurin yn dychwelyd o Lundain lle mae'n ceisio sgrifennu llyfr am fod ei fam yn wael, neu am fod g锚m rygbi yng Nghaerdydd.
Fedrwn i ddim bod yn si诺r o bopeth oherwydd mae'r holl stori yn symud o'r naill leoliad i'r llall mor ffrantig fel ei bod yn anodd dal gyda'r stori ar adegau.
Ond fe wyddom bod g锚m yng Nghaerdydd a bydd yna hwyl ac y mae'r bechgyn yn benderfynol o'i gael.
Torri ar yr hwyl
Ond yna, torrir ar yr hwyl wrth i'r "chwarae droi'r chwerw", a chydag ymddangosiad y bachgen ifanc Gavin pan yw'r bechgyn yn y Terra Nova yn y Bae.
Sy'n achosi mymryn o anghysur pan fo'n sylwi ar Rhys - un o'r Llwyth:
GAVIN: watch where you're ---ing going. Oh, hia Mr Thomas.
RHYS: Gavin, shwt wyt ti?
GAVIN: Fi'n gr锚t, Mr Thomas. Fi'n cael amser gwych. Fi wedi bod i Reflex gyda ... Oi, Chanise ... wait a sec. Sori, Mr Thomas. Mae'n bursting. Bet you didn'r recognise me in my wig. Mae'n fancy-dress yn Pulse heno. Fi yw Thelma, she's Louise.
RHYS: Deg mas o ddeg am ymdrech, Gavin.
GAVIN: Ydych chi'n gay, Mr Thomas?
RHYS: Pa fath o gwestiwn yw hwnna i ofyn i dy athro? Ac felly ymlaen . . .
Gavin yw'r person ifanc - pymtheg oed - sy'n dod a thyndra i fewn i'r ddrama a thorri a bygwth y gymdeithas lawen gyt没n sy'n bodoli drwy ddechrau ffurfio perthynas gyda Dada ac Aneurin.
Adnabod Caerdydd
Mae angen adnabyddiaeth led-dda o Gaerdydd i lawn werthfawrogi'r gyfeiriadaeth at y gwahanol dafarnau a chlybiau yno sy'n boblogaidd gyda bechgyn a merched hoyw a waeth imi gyfaddef imi fod dan anfantais yn hynny o beth.
Nid felly y gynulleidfa orlawn o bobol ifanc oedd yn lladd eu hunain yn chwerthin drwy gydol y perfformiad.
Oes, y mae yma ddigrifwch ond mae'n ddrama orlawn o emosiwn sy'n archwilio perthynas y Llwyth - llwyth teuluol, llwyth y gymuned hoywon.
Oherwydd yr ydym oll yn perthyn i fwy nag un llwyth, i fwy nag un gymdeithas a thyndra yn codi oherwydd perthynas pobol sy'n perthyn i fwy nag un gymuned.
Yr hyn sy'n wir estyn y ffiniau yn y ddrama hon yw'r defnydd deheuig o iaith. Ceir dogn go helaeth o Saesneg yn y ddrama ac y mae un aelod o'r cast, Michael Humphreys, yn ddi-Gymraeg a hyd y medra i gofio nid yw'n yngan brawddeg Gymraeg gyfan drwy gydol y ddrama.
Hyn yn adlewyrchiad teg o Gymreictod cymuned lle mae'r cymeriadau'n chwilio Cymreictod eu gwreiddiau dinesig.
Yr un pryd y mae'r gyfeiriadaeth Gymraeg yn gyfoethog. Mae yma ymwybyddiaeth ddofn a chadarn - a doniol iawn - o'r Gymraeg, ei hanes a'i ll锚n.
Iolo Morganwg yn hoyw? Debyg iawn! Pwy ond dyn hoyw fuasai wedi peri i filoedd o ddynion dros y canrifoedd yn gwisgo ffrogiau mewn seremon茂au gorseddol!
Yn ardderchog
Hyfryd gweld cast mor arbennig o gryf, pob un yn ardderchog. Haedda Simon Watts glod arbennig fel Aneurin, baich oedd yn galw am amrywiaeth dawn gyda'r cymeriad weithiai yn cymryd arno'i hun r么l y "llais" oedd yn tywys y gynulleidfa i sefyllfaoedd newydd.
Ond cafwyd perfformiadau ardderchog hefyd gan Danny Grehan, Paul Morgans a Si么n Young - sef Gavin - yn ei berfformiad proffesiynol cyntaf.
Dyma ddrama Gymraeg gyntaf Dafydd James a gobeithio y gwelir datblygu'r arddull newydd hyderus a ddangosodd yma.
Dyna'r sicr ddymuniad cynulleidfa ifanc Chapter.
Mae'r ddrama yno Chapter tan nos Sadwrn, Ebrill 24, a bydd yn teithio i ganolfannau eraill wedyn.
Y daith
- Chapter, Caerdydd 15 - 24 Ebrill 8yh Perfformiadau gydag uwchdeitlau Saesneg - Maw 20 Ebrill & Gwe 23 Ebrill Gyda Ch么r Aelwyd y Waun Ddyfal ac aelodau o Fechgyn Bro Taf 029 2030 4400
- Theatr y Torch, Aberdaugleddau 27 - 28 Ebrill 8yh Perfformiad gydag uwchdeitlau Saesneg - Mer 28 Ebrill Gyda Corlan
- Theatr Harlech 30 Ebrill 7.30yh Gyda Ch么r Eifionydd 01766 780667
- Theatr y Lyric, Caerfyrddin 5 Mai 8.00yh Gyda Ch么r Seingar 0845 226 3510
- Theatr Dylan Thomas, Abertawe 7 - 8 Mai 8yh Perfformiad gydag uwchdeitlau Saesneg - Sad 8 Mai Gyda Ch么r Waunarlwydd
- Neuadd Dwyfor, Pwllheli 11 Mai 8yh Gyda Ch么r Eifionydd 01758 704088
- Galeri, Caernarfon 13 Mai 7.30yh Gyda Ch么r Dre 01286 685222
- Canolfan y Celfyddydau 15 Mai 7.30yh Gyda Ch么r ABC 01970 62 32 32
- Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug 17 - 18 Mai 7.45yh Perfformiad gydag uwchdeitlau Saesneg - Maw 18 Mai Gyda Ch么r y Pentan 0845 330 3565
- Oval House Theatre, Llundain 20 - 22 Mai 7,45yh Uwchdeitlau Saesneg ym mhob perfformiad Gyda Ch么r Aelwyd Llundain 020 7582 7680