成人论坛

Tyner yw'r Lleuad Heno

16 Hydref 2009

Adolygiad Lliwen Roberts o ddrama newydd Meic Povey Tyner yw'r Lleuad Heno. Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr Harlech Hydref 14.

Wrth aros yn amyneddgar i ddrysau'r theatr agor roedd disgwyliadau uchel y gynulleidfa yn berwi.

Pawb yn barod i farnu yn hytrach na mwynhau a gwylio'r ddrama a minnau'n dechrau meddwl nad oedd y ddrama hon yn mynd i gael gwrandawiad teg gan gynulleidfa a ymddangosai yn rhy barod i wawdio ar 么l clywed am adolygiadau o'r ddrama.

Yn anffodus, oherwydd buddugoliaethau Meic Povey yn y gorffennol, gellir amau fod disgwyliadau rhai o'r gynulleidfa yn ormodol.

Wedi eistedd teimlwn innau'r cynnwrf a theimlo hefyd imi fod wedi bod yn rhy llym ar y bobl oedd yno wrth iddynt nythu ei hunain yn fodlon am yr awr a chwarter - di-dorriad - nesaf.

Teulu Garn Fach

Teulu sy'n byw ar fferm wledig Garn Fach oedd ar y llwyfan. Mae Prysor y tad (Owen Garmon) yn dioddef o salwch a henaint wedi'i drechu.

Mae ganddo ddau fab, Llew (Owen Arwyn), Owain (Merfyn Pierce Jones) a merch, Elinor (Ffion Dafis).

Mae Llew ac Elinor yn byw ar fferm Garn Fach gyda'u tad. Llew yn bugeila ac Elinor yn tendio a gofalu am ei thad.

Mae Owain yn byw gyda'i wraig, Emma (Buddug Povey), yn nhafarn Yr Angor ac mae ganddynt fab, Dafydd (Arwyn Jones), sy'n dod adref yn arbennig o'r Brifysgol yng Nghaerdydd i ymweld 芒 nhw ar flwydd Prysor, ei Daid gan ddod 芒 ffrind diddorol gydag ef sef Mared (Tonya Smith).

Mae'r stori i gyd yn cwmpasu un noson olau leuad.

Mae duisgwyliadau cynhyrfus y teulu am Dafydd yn dyfod o'r coleg yn cael ei danseilio gan ymwelydd fu ar fferm Garn Fach achos gyda iechyd Prysor yn dirywio bu cyfreithiwr Prysor yno yn trafod ei ewyllys.

Nid oes gan Prysor fwy na diwrnodau ar 么l ar daith bywyd ac felly mae'r teulu ar bigau'r drain eisiau gwybod beth fydd dyfodol Garn Fach (neu'n hytrach pwy fydd yn elwa o Garn Fach).

A chymeriad sy'n awyddus iawn i wybod cynlluniau Prysor yw Emma.

Mae amwysedd yn perthyn i weithredoedd Emma, weithiau'n garedig tuag at Prysor weithiau'n ei sarhau.

Cyfrinachau

Teimlais fod strwythur y ddrama yn arbennig gyda chyfrinachau yn cael eu datgelu fesul dipyn gan gronni d诺r i'r llygaid weithiau yn union fel pilio nionyn.

Ceir nifer o gyfeirio tuag at y lleuad llawn gan awgrymu fod gwallgofrwydd yn yr awyr a helynt yn magu.

Nid yw'r set yn newid gydol y ddrama ac i fod yn onest mi roeddwn ychydig yn siomedig gyda symlrwydd y set honno a si芒p traddodiadol y llwyfan ond wedi dweud hyn nid oedd angen gormodedd o set gan fod yr actio a'r geiriau yn ddigon pwerus.

Gallai set fwy uchelgeisiol efallai fod wedi tynnu oddi ar bwysigrwydd yr hyn oedd yn cael ei ddweud.

Mae'r 'Llechwedd' yn rhan annatod o'r ddrama. Ar 'Y Llechwedd' (ar fynydd ger y fferm) mae digwyddiadau mwyaf blaengar ac efallai hunllefus y teulu yn digwydd.

Ceir ei ddisgrifio fel man "anial a di-groeso", "wedi'i ddifetha" ac yna yn "ddihangfa" a "lle sbeshal". Digwyddodd mae mwy nag un 'ddamwain' ar 'Y Llechwedd' ond hefyd bu digwyddiadau o bleser arbennig yno.

Drama yw hon lle mae temtasiwn a rhywioldeb anifeilaidd corfforol yn goroesi yn erbyn moesau dynolryw.

Nid oes yr un cymeriad dieuog. Neb ond Dafydd.

Pwysig malio

Yn 么l Meic Povey mae'n bwysig ein bod yn 'malio' am y saith cymeriad ac yn sicr, er gwaethaf eu beiau rydym yn 'malio' amdanynt.

Oherwydd hyn rydw i'n credu fod y perfformio yn ogystal a'r ysgrifennu swynol a heriol wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Rwy'n annog unrhyw un i frysio i'r theatr i weld - campwaith.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.