Gwenlyn y gwrand盲wr astud ar bobl yn siarad - atgofion ei wraig gyntaf, Joy.
Yr oedd Gwenlyn Parry yn wrand盲wr astud ar bobol yn siarad, meddai ei wraig gyntaf, Joy.
"Rwy'n ei gofio'n dweud wrtha i, 'Wyt ti wedi sylwi nad yw pobol byth yn gorffen eu brawddegau pan fyddan nhw'n siarad?' Roedd yn wir iawn am ei dad a'i fam - fydden nhw byth yn cloi eu brawddegau.
"Roedd ganddo fe glust fain iawn am ddeialog, dawn i greu sgwrs fel oedd pobol yn siarad."
Yn 么l cyfeillion yr oedd barn Joy ei hun yn un bwysig iawn iddo ac yntau'n ystyried eu bod ill dau ar yr un donfedd.
Hapus da phensil yn ei law
Meddai hi: "Pan fydde syniad yn ei daro roedd e'n methu aros nes galle fe roi pensil ar bapur. Roedd e hapusa pan oedd pensil yn ei law yn gweithio ar ddrama.
"Roedd e'n disgwyl bo fi'n cadw gydag e wrth iddo fe fwrw ymlaen 芒'i ddrama. Byddai'n dweud yn fanwl wrtha i bob cam o beth oedd yn digwydd yn y stori."
Patrwm brawddegau i bob cymeriad
"Roedd yn darllen darnau o ddeialog ac yn gofyn i fi, 'Pwy sy'n siarad fanna?' Roedd ffordd o siarad, patrwm brawddegau, pob un o'i gymeriade yn wahanol.
"Wedi gorffen y ddrama fe fydde fe'n byrhau ac yn tocio'r stori a'r ddeialog lawr i'r asgwrn nes o'n i'n teimlo weithiau na fydde dim byd ar 么l. Roedd e'n feirniad llym ofnadwy o'i waith ei hunan.
"Fydde fe byth yn gollwng dim o'i law nes ei fod yn gwbwl fodlon.
"Mi fydde fe byth a hefyd yn newid llinellau gan ddweud pethe fel; 'Na, fydde Williams ddim yn siarad fel'na,' ac weithiau yn rhoi'r llinell yng ngheg cymeriad arall."
Trafod drwy'r amser
"Wedyn mi fyddai'n symud sefyllfaoedd o gwmpas ac mi fyddai'n trafod ac yn trafod drwy'r amser.
"Pan fydden ni'n mynd i weld drama rhywun arall yr oedd yn trafod a dadansoddi'r stori a'r ystyr yn ddiddiwedd wedi hynny. Beth oedd y neges, beth oedd y dramodydd yn dreio'i ddweud. Mi fyddai'n gofyn o hyd ac o hyd, beth oeddwn i'n feddwl. Dyna oedd y mwynhad iddo fe - i ni'n dau o ran hynny."
Ei ddrama gyntaf
Drama gyntaf Gwenlyn oedd Y Ddraenen Fach a enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog a chyflwynwyd perfformiad ohoni y flwyddyn wedyn gan gwmni Cymry Llundain yng nghystadleuaeth drama un act Eisteddfod Llanelli.
"Yr oedd fy nhad-cu a mam-gu yn byw mewn rhes o dai ar fynydd Llangyndeyrn ac enw'r lle oedd y Ddraenen Fach. Roedd 'nhad a mam wedi byw yno am gyfnod hefyd ac yr oedd Gwenlyn wedi bod fyny 'da fi i weld y lle. Doedd bron ddim o'r tai ar 么l erbyn hynny.
"Roedd e wedi clywed gan ei dad y stori am y milwyr yn y Rhyfel Cyntaf yn dod allan o'r ffosydd i chwarae p锚l-droed yn erbyn ei gilydd ar nos Nadolig.
"Fe gyfunodd e'r digwyddiad hwnnw a'r lle yn Y Ddraenen Fach.
"Mae criw o filwyr mewn seler ac maen nhw'n clywed s诺n pobol yn y seler arall ond 'dyn nhw ddim yn gwybod ai milwyr Prydeinig ynteu Almaenwyr sydd yna.
"Yn y diwedd mae'r drws yn agor a milwr Almaenig yn dod i lawr y grisiau ac y mae'r milwr ifanca yn y seler yn gwylltio ac yn ei saethu."
Neuaddau gorlawn Saer Doliau
Wrth s么n am Saer Doliau, y ddrama ddaeth 芒 Gwenlyn Parry i sylw'r genedl, dywedodd:
"Pan ddechreuodd y ddrama ar ei thaith yn Nolgellau nid oedd y neuadd ond yn chwarter llawn ond pan ganodd y teliffon yn y diwedd roedd pawb wedi'u syfrdanu. Erbyn diwedd y daith roedd pob neuadd yn orlawn."
Deuoliaeth pobl
Yn ei lyfr am ddram芒u Gwenlyn Parry dywed Dewi Z Phillips mai yr un thema sydd ymhob un o'r dram芒u a chytuna Joy fod, ynddyn nhw i gyd, y ddeuoliaeth honno sydd ymhob person - yr hunan da a'r hunan drwg.
Ychwanegodd bod cymeriadau ei ddram芒u yn gyfnewidiol ac y gellid cyfnewid, er enghraifft, y saer a'r bachgen ifanc yn Saer Doliau.
Mae Y Ffin, wedyn, wedi ei pherfformio gyda dwy ferch a bachgen yn hytrach na'r ddau ddyn a merch a sgrifennwyd gan Gwenlyn.
Mae catalydd ymhob un o'i ddram芒u - ag eithrio'r 罢诺谤, meddai Joy.
"Rwy'n meddwl mai Y 罢诺谤 yw ei ddrama orau," meddai. "Mae'n fwy tynn, yn fwy aeddfed."