Y dramodydd Meic Povey oedd gwestai arbennig Dewi Llwyd ar ei raglen fore Sul Tachwedd 14, 2014.
Ymhlith y pynciau dan sylw yr oedd:
- Treulio'r Suliau - nid yw wedi mynychu capel ers yn 14 oed.
- I arferion sgrifennu - mae'n sgrifennu bob bore ar wahan i fore'r Nadolig.
- Ei gyfnod yn actio gyda 'Minder' - bu amrywiaeth ryfeddol yn ei acen Gymraeg yn ystod y cyfnod!
- Sgrifennu ei hunangofiant.
- Ei ddrama ddiweddaraf i gwmni Theatr Genedlaethol Cymru - efallai iddo ddychwelyd i Gwm Gwynant unwaith yn ormod ac mai camgymeriad oedd cyfarwyddo'r ddrama ei hun.
- Y pethau sy'n ei wylltio - Cymry nad ydynt yn trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant.
- Pethau sy'n codi ei galon - ei ymweliad cyntaf ers blynyddoedd ag Eisteddfod Genedlaethol yr urdd y llynedd. "Mae yna gymaint o doom and gloom . . . am yr iaith Gymraeg . . . ond pan ydach chi'n gweld yr holl blant yna'n cystadlu yr holl weithgaredd yna yr holl athrawon a rhieni yna yn gweithio'n galed . . . fedrai ddim credu o weld hwnna fod yr iaith Gymraeg yn mynd i ddarfod, fedrai ddim," meddai.