Drama newydd gan Aled Jones Williams fydd cynhyrchiad Theatr Bara Caws ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Glynebwy 2010.
Cymerir rhan yn Merched Eira gan Gaynor Morgan Rees ac Olwen Rees a'r cyfarwyddwr fydd Bryn F么n.
Drama yw hi yn mynd i'r afael 芒 henaint, unigrwydd a brad cyfrinachau yw hi.
"Unwaith eto mae huodledd cyhyrog Aled Jones Williams yn ein harwain i fannau tywyll yn y ffyrdd mwya' difyr - yn dal llusern gynnes ar ymyl y dibyn oeraf un," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Fe'i disgrifwyd fel drama yn " berwi o syniadau, o ddeialog disglair ac o weledigaeth eofn a digyfaddawd".
Bydd yn cael ei pherfformio gyntaf yn Theatr Beaufort Glynebwy (01495 354769) Awst 3 - 5 ac wedyn yn mynd ar daith o amgylch Cymru rhwng Medi 6 a Medi 25.
Ar y cyd a hi perfformir cynhyrchiad Theatr Tandem oChwilys hefyd gan Aled Jones Williams.
Y daith
- 3 Medi 7.30 Galeri, Caenarfon Swyddfa Docynnau 01286 685222
- 4 Medi 7.30 Galeri, Caernarfon Swyddfa Docynnau 01286 685222
- 7 Medi 7.30 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088
- 8 Medi 7.30 Neuadd Dwyfor, Pwllheli Swyddfa Docynnau 01758 704088
- 9 Medi 7.30 Neuadd Ysgol Gyfun Llangefni Menter M么n 01248 725732
- 10 Medi 7.30 Theatr John Ambrose, Rhuthun Siop Elfair, Rhuthun 01824 702575
- 11 Medi 7.30 Neuadd Y J.P. Bangor Dyfan Roberts 01248 382141
- 14 Medi 7.30 I'w Drefnu
- 15 Medi 7.30 Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron Swyddfa Docynnau 01570 470697
- 16 Medi 7.30 Theatr Y Gromlech, Crymych Cefin Davies 01239 831455
- 17 Medi 7.30 Neuadd Llanofer, Caerdydd Swyddfa Docynnau 02920 631144
- 18 Medi 7.30 Neuadd Llanofer, Caerdydd Swyddfa Docynnau 02920 631144
- 21 Medi 7.30 Neuadd Ogwen, Bethesda Siop John Bethesda Fflur Roberts 01248 600251 01248 602032
- 22 Medi 7.30 I'w Drefnu
- 23 Medi 7.30 Neuadd Buddug, Y Bala Siop Awen Meirion 01678 520658
- 24 Medi 7.3o Neuadd Gymuned Llanrwst Menter Iaith Conwy 01492 642357
- 25 Medi 7.3o Theatr Twm O'r Nant, Dinbych Siop Clwyd Gaynor Morgan Rees 01745 813349 01745 812349