Drama gan Saunders Lewis na chafodd ei llwyfannu erioed o'r blaen fydd cynhyrchiad Theatr genedlaethol Cymru ar gyfer mis Mai a Mehefin 2010.
Cyhoeddwyd Yn y Trên gan Saunders Lewis yn y cylchgrawn Barn ym 1965 - comedi ddu sy'n mynd o dan groen y berthynas sy'n datblygu rhwng dau sy'n cyfarfod ar hap.
Yn teithio ochr yn ochr â'r ddrama mae drama fer arall gan Manon Wyn, Dau Un Un Dim.
Lleolir y ddrama hon, sydd hefyd yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf, gan mlynedd i'r dyfodol ac mae'n codi cwestiynau am foesoldeb arbrofion geneteg.
"Rwy'n edrych ymlaen yn arw i gyflwyno'r ddwy ddrama i'r gynulleidfa," meddai, Betsan Llwyd, sy'n gyfrifol am y cynhyrchiad.
"Er bod gwahaniaethau mewn lle, amser a chynnwys rhwng y ddwy ddrama y mae yna elfennau sy'n gyffredin hefyd fydd yn eu hamlygu eu hunain yn ystod y perfformiadau," meddai.
Dau gymeriad sydd yn y ddwy ddrama a'r actorion yw Rhodri Meilir o'r Wyddgrug a wnaeth enw iddo'i hun ar y rhaglen gomedi My Family a Lowri Gwynne o Gricieth a fu'n actio ar Rownd a Rownd a Blodau.
Dywedir bod dylanwad theatr yr abswrd ar ddrama saunders Lewis ac yn llawn hiwmor du wrth i deithiwr heb docyn a chasglwr tocynnau ddod wyneb yn wyneb ar daith yn y nos.
Y daith
Bydd y daith chwech wythnos yn cychwyn ym Mhafiliwn Cenedlaethol Cymru, Pontrhydfendigaid, nosweithiau Iau a Gwener Mai 13-14 ac wedyn yn ymweld â:
• Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar nosweithiau Mawrth a Mercher, Mai 18-19
• Neuadd yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mai 21-22
• Neuadd Goffa, Cricieth, ar nosweithiau Mawrth a Mercher, Mai, 2010 25-26
• Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mai 28
• Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Llanbedr Pont Steffan, ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn, Mehefin 3 - 5
• Theatr Mwldan, Aberteifi ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 09-11 Mehefin
• Galeri, Caernarfon, ar nosweithiau Mawrth, Mercher a Iau, Mehefin 15-17
Bydd pob perfformiad yn dechrau am 7.30pm.
Ar gyfer yr ifanc
Bydd y perfformiadau yn Llanbedr Pont Steffan yn y cyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron gerllaw.
"Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol gan i Manon Wyn ennill Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Angharad Williams.
"Mae hefyd yn rhoi cyfle inni gysylltu'n uniongyrchol â phobl ifanc gan mai nhw, wedi'r cwbl, yw cynulleidfaoedd theatrau'r dyfodol," ychwanegodd.