Lluniau: oriel 2
Chwefror 14, 2007
Diwrnod gwyn, prysur oedd diwrnod Teilo Sant ddydd gwener diwethaf (Chwefror 9), wel, tan amser cinio o leiaf, pan gaewyd yr Amgueddfa oherwydd Yr Eira.
Pleser prin yw cael eich taflu allan o'r Amgueddfa Hanes Genedlaethol, ac felly 'roedd cynulleidfa'r gwasanaeth yn lwcus iawn! Gobeithio y cawsant siwrne saff yn 么l i Bontarddulais, er gwaetha'r lluwchio.
Hwn oedd y gwasanaeth cynta i mi ei drefnu, ac roedd hi'n fwy o hwyl nag oen i'n ddisgwyl - ac yn wers nad oes unrhyw faint o drefnu dyfal a pherswadio yn gallu curo'r tywydd. Roedd y gwasanaeth yn wych - rhaid i mi gyfadde mod i dan deimlad am eiliad fach yn ei ystod (gormod o amser lan yn y goedwig 'ma, falle!). Ond o ddifri - braf oedd gweld y lle'n llawn, ac mae'n ysgogiad i drefnu gweithgareddau tebyg yn fwy aml yn y dyfodol.
Prin iawn oedd yr amser i ddal fy ngwynt ar 么l yr eira - roedd rhaglen lawn o weithgareddau ar hyd y penwythnos, a dwi'n dechrau tridie o sesiynau gwisg Tuduraidd heddiw. Lot o hwyl - ond anghyfforddus yw teipio mewn staes, felly mi ai yn 么l at fy nghaban rwan!
Sain Ffagan yn yr eira
Chwefror 6, 2007
Ddaeth y lluwch eira ddim bore 'ma, fel o'n i wedi disgwyl - wel, wedi hanner gobeithio, byddai ymladd peli eira ar safle'r amgueddfa'n hwyl a sbri. Tywydd oer, clir drwy'r bore.
Cyn dod i weithio yma, ro'n i'n casau'r hen arfer o s么n am y tywydd yn lle sgwrsio 'go iawn'. Ar 么l chwe mis yn Sain Ffagan, fodd bynnag, dwi wedi dechrau deall - a mwynhau - yr obsesiwn genedlaethol efo atmosfferics. Mae bod allan yn yr awyr agored, mewn bwthyn neu ffermdy ddrafftiog yn llawer llai cynnes a chyfforddus 'na swyddfa ddiflas wedi'i hawyru. Tra'n gweithio ar y safle, felly, mae'r rhan fwyaf o'n gofalwyr yn paratoi t芒n yn y tai, yn casglu pren i greu tanllwyth croesawgar (ac ymarferol o gynnes).
Mewn Eglwys, fel 'dych chi'n si诺r o wybod yn barod, does dim lle t芒n i swatio o'i amgylch. Er taw ail-godi Eglwys Duduraidd ydym ni, mae 'na un gwahaniaeth bach - gwresogyddion tanddaearol ar y safle. Yn wir, 'roedd y Rhufeiniaid yn eu defnyddio nhw - ond 'dyn ni wedi eu rhoi yn yr adeilad er mwyn cadw'r gwaith pren a'r plastr yn sych ac hapus. Dw inne'n dal i fferru gan amla (a chan mai cwyno sy'n ail agos i s么n am y tywydd yn y lle 'ma) - felly croeso cynnes (bwm bwm) gafodd y ffenestri newydd ddydd gwener diwethaf. Mae'r Athrofa yn Abertawe wedi bod yn brysur yn eu gosod, a gobeithio y cewch chi gyfle i ddod i fyny i'r Eglwys rywben i gal sbec arnyn (neu drwyddyn) nhw.
Mae paratoadau Diwrnod Sant Teilo, sydd dydd Gwener, Chwefror 9 yn mynd yn eu blaenau - bydd y dathlu'n digwydd ar ddydd Gwener, gyda gweithagareddau dros y penwythnos hefyd. Fe fydda i'n falch o wybod beth sydd gan drigolion Pontarddulais i'w ddweud am y datblygiadau newydd bryd hynny - siawns y cewch chithau ddarllen amdanyn nhw'r wythnos nesa' hefyd!
30 Ionawr 2007
Cofnod fach diwedd-y-dydd sydd gen i ar eich cyfer heddiw. Mae diwrnod Teilo Sant (ar Chwefror 9) yn prysur agosau a 'dwi'n ceisio trefnu oedfa ar gyfer cynulleidfa o Bontarddulais, sef safle gwreiddiol yr Eglwys. Mae'n fusnes cymhleth - yn enwedig 芒'r adeilad yn dal i edrych fel safle adeiladu ar hyn o bryd!
Fe gawsom ni newyddion da heddiw, fodd bynnag: mae ein cloch newydd wedi cyrraedd o Loughborough, a bydd dwy ffenestr yn ei lle erbyn diwedd yr wythnos (yr rheiny o Institiwt Wydr Abertawe). Siawns y medrai berswadio'r adeiladwyr i wneud dipyn o dwtio tra fyddwn nhw'n eu gosod!
Bydd penwythnos y 9-11 o Chwefror yn gyfle i bobl ymweld 芒 thu fewn yr Eglwys, a dysgu 'chydig am fywyd yng Nghymru yn yr oes Duduraidd: fe fyddwn ni'n barod amdanoch chi, 'dwi'n si诺r.
Rhaid trefnu gweithgareddau fel hyn fisoedd o flaen llaw, a 'dwi wedi gaddo cynnal gweithgareddau paentio yn ystod mis Ebrill. Fy ngwaith cartref i heno, felly, fydd dyfeisio ryseitiau paent naturiol. Dwi wedi bod yn arbrofi (yn aflwyddiannus) gydag wyau, lard, sbigoglys ac olew olewydd. Llawer yn rhy ddrewllyd.
B卯trwt, sbeisys a chlai amdani heno, felly...
Ionawr 11, 2007
'Rwy'n ysgrifennu hwn wrth i'r rhew ddadmer o'r coed o amgylch yr Eglwys. Mae s诺n ysgafn iawn d诺r yn rhedeg a'r haul trwy'r coed yn rhoi naws reit llon i'r parc - yn sicr, mae'n codi dipyn o gyffro at be fydd yn wanwyn cyntaf i finne yn Sain Ffagan. Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar ato.
Bydd lliw blodau 'gwyllt' a glaswellt yn ymddangos yn iard yr Eglwys, felly hefyd y tu fewn iddi, am ein bod ni am gychwyn ar y gorchwyl o ail-greu y murluniau. Roedden nhw'n bethau llachar, bywiog iawn pan y peintiwyd nhw ym 1520: rydyn ninne wedi bod yn cymysgu paent naturiol i ail-greu yr effaith.
Mwy am y proseict - cliciwch yma.