Fel rhan o'r dathliadau ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf 2008, bu curadurion a staff o'r adran gadwraeth yn egluro'r gwaith sy'n digwydd tu 么l i'r llenni'n dehongli a gofalu am yr adeiladau hanesyddol a'u cynnwys. Hefyd bu'r adeiladwyr yn cael cyfle prin i orffwyso er mwyn siarad am eu gwaith yno ac roedd siawns i ymwelwyr glywed mwy am gynlluniau'r amgueddfa ar gyfer y dyfodol.
Agorodd yr amgueddfa yng Nghaerdydd ar 1 Gorffennaf 1948 ac erbyn hyn mae'n un o brif amgueddfeydd awyr agored y byd. Saif yr amgueddfa ar dir Castell Sain Ffagan, plasty sy'n dyddio o ddiwedd y 16 ganrif. Fe'i rhoddwyd i bobl Cymru gan Iarll Plymouth a bellach mae dros ddeugain o adeiladau gwreiddiol i'w gweld ar y 100 erw o dir. Adeilad diweddaraf yr amgueddfa yw eglwys ganoloesol Teilo Sant a gafodd ei hagor gan Archesgob Caergrawnt, Dr Rowan Williams yn Hydref 2007. Cliciwch yma i weld lluniau ac i ddarllen fwy am yr Eglwys hon ac am yr agoriad yn Hydref 2007.
"Mae'r dathliadau pen-blwydd yn gyfle gwych i'r cyhoedd gael siarad gyda gweithwyr yr amgueddfa ac i wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd y tu 么l i'r llenni yn Sain Ffagan," meddai cyfarwyddwr yr amgueddfa, John Williams-Davies.
"Bydd yn gyfle i ni hefyd allu dangos y sgiliau sydd gennym yn yr amgueddfa werin a byddwn yn holi ymwelwyr am yr hyn yr hoffent hwy ei weld yn Sain Ffagan yn y dyfodol."
Dros y degawd nesaf bydd yr amgueddfa yn cael ei thrawsnewid i fod y lle i adrodd hanes pobloedd Cymru o'r amseroedd cynharaf hyd at heddiw. Cymerwyd y cam cyntaf yn y broses hon y llynedd gydag agoriad Oriel 1, oriel sy'n edrych ar hunaniaeth.
Llynedd oedd blwyddyn brysuraf erioed Sain Ffagan gyda 642,289 o ymwelwyr. Mae wedi derbyn llu o wobrau, o dlws arbennig am ddifyrru ymwelwyr gan Awdurdod Ymwelwyr Prydain 20 mlynedd yn 么l, i wobr fwy diweddar gan Fwrdd Croeso Cymru am fod y profiad ymwelwyr gorau.
Bu Hywel a Nia'n darlledu'n fyw o'r Amgueddfa ar 成人论坛 Radio Cymru ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf, 2008. Cliciwch yma i wrando ar y rhaglen eto (tan ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf, 2008.
Mwy am ben-blwydd Sain Ffagan yn 60
|