|
Y wlad yn dod i'r dref
Dydy gweld defaid, hwyaid a moch o flaen Canolfan Mileniwm Cymru ddim yn olygfa gyfarwydd iawn i ddinasyddion Caerdydd. Yn wir, prin bod unrhyw anifeiliad fferm wedi cael eu gweld yn crwydro bae Caerdydd, ond dyna'n union a welwyd yno rhwng Tachwedd 3 a 5.
Mae Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru yn dathlu eu penblwydd yn 70 oed ac i nodi hynny, trefnwyd g诺yl fawr yn y brifddinas i addysgu pobl trefol am fywyd cefn gwlad Cymru.
|
|
|
|
|
|
Dai Jones Llanilar yn agor yr wyl yn swyddogol ar ddydd Gwener, Tachwedd 3
|
|
1听
2听
3听
4听
5听
6听
7听
8听
9听
10听
11听
12听
13听
14听
15听
16听
17听
18听
19听
20听
|
|
Dai Jones Llanilar:
"Mae fy nyled i i'r mudiad yma yn mynd i aros gyda fi tra fydda i byw. Dyma'r mudiad pwysica' yn fy marn i. Pan fydd y wlad yn colli eu ffermwyr - dyna ddiwedd y byd.
"Rwy'n dymuno'n dda i chi fel mudiad, ac rwy'n edrych ymlaen at y gala nos Sul. Mae yna dalent aruthrol yma.
"Os nad ydych chi wedi dysgu shwt mae caru ar ol bod gyda'r ffermwyr ifainc, fe garwch chi byth!" |
|
|
|