Mae Carwyn Evans sydd wedi cael ei gomisiynu gan Cywaith Cymru, wedi dod 芒 phedwar bocs symudol mawr glas i faes yr Eisteddfod, i'w harddangos y tu allan i'r babell Gelf a Chrefft. 'Yr Ymraefael' yw'r pwnc ac mae'n ehangiad o waith mewnosod Carwyn Evans yn Eisteddfod Meifod y llynedd. Ef oedd enillydd gwobr Ivor Davies, am ei waith 'Unlliw' sef pentyrrau o flychau adar bychain wedi ei gwneud o gardbord a phob un yn cynrychioli t欧 newydd yn 么l cynllun i'w hadeiladu yng Ngheredigion. "Parhad o'r darn 'Unlliw' llynedd yw'r shipping containers yma. Mae'n ffordd o gyfleu diwylliant ar symud, fel y mae'r Eisteddfod yn symud o le i le," meddai Carwyn yn esbonio'r stori y tu n么l i'r blychau mawr hyn sydd bob un wedi eu haddurno mewn ffordd gwahanol. "Rydw i wedi rhoi mewnosodiadau ym mhob un o'r pedwar. Yn y cyntaf mae chwyiaid yn hedfan ar y wal. Mae hyn yn cyfleu y broblem yng nghefn gwlad. Ai'r bobol yn gadael yw'r broblem, neu'r bobol sy'n symud i mewn?" Mewn un blwch mae yna g锚sys wedi eu clymu ac esbonia Carwyn, "mae pobl yn ffoi i wlad fel Cymru a weithiau maen nhw'n cael trafferthion ac yn teimlo'n gaeth, a dyna mae'r suitcases yn trio ei gyfleu." Comisiynwyd Carwyn i wneud yr arddangosfa gan Cywaith Cymru, a gofynnwyd am adeilad yr oedd posib i bobol berfformio ynddo ac i ymateb i'r gwaith. Mewn cyd-weithrediad 芒'r Academi y mae perfformiadau gan feirdd ac actorion wedi eu trefnu yn y blychau hyn bob dydd. Dydd Mawrth, taith y beirdd oedd yna, Iwan Llwyd, Mei Mac a Geraint Lovgreen oedd yn perfformio yn mhob un o'r ystafelloedd yn eu tro. Mae Sharon Morgan, MC Seizmundo ac Ifan Pryd hefyd yn perfformio yna rhwng heddiw a diwedd yr wythnos. Cliciwch yma i edrych ar y lluniau.
|