"Rydw i wrth fy modd, mae'n waith caled ond mae'n rhoi lot fawr o foddhad ac egni i mi," meddai Carys Edwards, un o'r Cyfarwyddwyr. "Wnaethon ni gynnal clyweliadau gyda disgyblion o ysgolion ar draws Cymru, tua pymtheg neu ugain ohonyn nhw i gyd. Mae tua 100 o bobl ifanc yn y cast, yn ogystal 芒 deunaw yn y band. "Rydyn ni yn ymarfer bob dydd Sul tan y sioe wythnos Eisteddfod yr Urdd, ac am ddyddiau dros wyliau'r Pasg. Mae'n gyfle gwych i'r bobol ifanc, gan bo y rhai sy'n dod o Gaerfyrddin, Aberystwyth neu'r gogledd ac yn y blaen yn aros yng Ngwersyll yr Urdd ym mae Caerdydd. "Maen nhw wedi bod allan yn bowlio deg ac ati er mwyn cymdeithasu, achos mae'n bwysig eu bod nhw'n dod i adnabod ei gilydd yn well. "Maen nhw yn gweithio'n galed iawn, ac mae nifer helaeth o'r cast yn gwneud eu TGAU neu Lefel A eleni hefyd. Mae'r ymateb i'r sioe wedi bod yn anhygoel, ac mae'r tocynnau i gyd wedi eu gwerthu yn barod." Carys Edwards Darllenwch Adolygiad o Les Mis茅rablesEwch i edrych ar luniau o'r cast yn ymarfer Cyfweliadau gyda rhai aelodau o'r cast
|