Yn yr hinsawdd ddiwylliannol sydd ohoni heddiw yng Nghymru, mae'n anodd iawn dod o hyd i gymuned gyfan o bobl sy'n rhannu'r un ymdeimlad o genedligrwydd a brogarwch. Mae'n wir fod gan bob ardal a phob rhanbarth ei hunaniaeth, ond nid cymaint 芒'r De Orllewin. I rywun sy'n rhy bell i'r Dwyrain i amgyffred 芒 meddylfryd o'r fath (ychydig filltiroedd i'r Dwyrain o Bont Llwchwr!), mae'r wledd hon o Gymreictod i'w chael yn achlysurol yn unig.
Rhyw genedligrwydd 'prynhawn Sadwrn' fu'n perthyn i dipyn o Dde Cymru, a hynny'n dod yn amlwg yn Stadiwm y Mileniwm bob tro y bydd Cymru'n chwarae. Ond ar Barc y Strade, ffordd o fyw yw'r Cymreictod hwn. Ac yn yr oes broffesiynol fodern, lle mae gornestau Celtaidd ac Eingl-Gymreig yn cael eu cynnal bob noson o'r wythnos bron, byddai'r cyhuddiad o fod yn 'Gymry prynhawn Sadwrn' neu unrhyw noson arall yn yr wythnos yn warth ar dref y Sosban.
Cyn Hydref 24ain, gellir dweud fod yna ddau brif achlysur pan fyddai'r cenedligrwydd hwn wedi amlygu ei hun. Ac yn eironig ddigon, roedd y ddau ddigwyddiad ar Hydref 31ain, er bod tri deg chwech o flynyddoedd rhyngddynt. A'r ddau mor eiconig 芒'i gilydd. Y cyntaf, wrth gwrs, oedd buddugoliaeth byd enwog y Scarlets dros Seland Newydd ym 1972. Hyd yn oed os nad oeddech chi yno, mae'n si诺r y cofiwch chi'r llun enwog o'r capten Delme Thomas yn cael ei godi i'r awyr ar freichiau ei gyd-chwaraewyr a'r cefnogwyr. Yr ail oedd marwolaeth annhymig Ray Gravell yn 56 oed, ar Hydref 31ain, 2007. Cynhaliwyd ei angladd ar Barc y Strade bythefnos yn ddiweddarach, a'i arch yn cael ei gludo ar ysgwyddau Delme Thomas yntau. Dau begwn emosiwn, ond y naill mor gofiadwy 芒'r llall. Dau frodor o Lanelli, dau arwr cenedlaethol.
Bu tipyn o ramant yn perthyn i ymweliadau 芒 Pharc y Strade ar hyd y blynyddoedd, yn fwy nag unrhyw gae arall yng Nghymru. Ni fyddai hyd yn oed y glaw a'r gwynt a'r mellt a tharanau yn ddigon i dawelu ar frwdfrydedd cefnogwyr y Sgarlets, na chwaith ar frwdfrydedd y sawl a fyddai'n mentro'n flynyddol ar draws bont Llwchwr i dir y gelyn.
Ac ar noson oer olaf ar Barc y Strade, roedd cenedlaethau o gefnogwyr o bedwar ban yno i ffarwelio 芒 theatr llawn atgofion bore oes. Noson oedd hon i dalu teyrnged i arwyr ac i ddathlu Cymreictod. Ymlwybrodd capten ar 么l capten i'r maes ac atgofion o bob un ohonynt yn llifo'n 么l. Ieuan Evans yn croesi am gais yn y gornel, cic a chwrs gan Phil Bennett a hyrddiad drwy'r sgarmes gan Scott Quinnell... heb s么n am gampau Derek Quinnell, Phil Davies a Rupert Moon bob un. Cymaint oedd y noson yn ei olygu, fel bod John Leleu wedi teithio bob cam o Sbaen i orymdeithio ar hyd y cae. Fe dderbyniodd yr holl gapteiniaid grys arbennig i goff谩u'r achlysur, ac roedd cyflwyniad arbennig i'r cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr Gareth Jenkins. Cafodd chwaraewyr Ysgolion Llanelli dan 11 oed y cyfle i dywys y capteiniaid i'r maes.
Fe ddaeth y dorf i'w thraed wrth groesawu dau o brif arwyr y Sgarlets ar hyd y blynyddoedd, Phil Bennett a'r capten buddugol ar y diwrnod hanesyddol hwnnw ym 1972, Delme Thomas. Ychydig iawn o gyflwyniad oedd ei angen ar y ddau, ac fe fydd y lluniau o Phil Bennett yn taflu ei freichiau i'r awyr ar ei ben-blwydd yn drigain oed, a Delme Thomas yn camu'n hyderus i'r llinell hanner i dderbyn y gymeradwyaeth yn aros yn y cof.
Simon Easterby gafodd y fraint o arwain y Sgarlets allan fel capten ar Barc y Strade am y tro olaf yn seiniau 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan. Roedd geiriau'r g芒n yn taro'r galon dipyn yn galetach ar y noson, a'r emosiynau'n fwy dwys wrth gofio Grav a ysbrydolodd y defnydd o'r clasur ar Barc y Strade. Ac oedd, roedd ysbryd y cawr o Fynydd-y-garreg 'yma o hyd'. Mae'n si诺r y byddai wedi bod wrth ei fodd yn ei sgarff goch a'i glustffonau dan ganu a bloeddio ei Gymreictod i bob man.
Cofio oedd un o brif them芒u'r wythnos olaf ar Barc y Strade, gyda'r gwasanaeth arbennig gafodd ei chynnal ar nos Fawrth dan ofal y Parchedig Eldon Phillips. Roedd yn gyfle i anrhydeddu'r sawl y mae eu llwch wedi eu gwasgaru ar y tir a'u hangladd wedi ei gynnal ar hyd y blynyddoedd. Roedd naws 'gwasanaeth coffa' i'r noson ar y cyfan, gydag amser i alaru ond i ddiolch hefyd. Cyhoeddwyd yr enwau bob yn un, gan ddwys谩u'r emosiwn, cyn i Derek Quinnell a'r Parchedig Eldon Phillips godi tywarchen symbolaidd oddi ar y cae yn barod i'w chludo i Barc y Scarlets. Fel y dywedodd un o'r cefnogwyr, Mike Mason, "mae'n rhoi parch i'r bobl a ga's eu llwch wedi eu dosbarthu ar y cae 'ma. Pan gawson nhw eu llwch wedi eu dosbarthu, ro'n nhw'n meddwl y byddai cwmni gyda nhw tua ugain penwythnos y flwyddyn ond mae hwnna wedi dibennu nawr, felly mae e'n syniad da". Ac am y gwasanaeth ei hun, fe ddywedodd Monro Walters (mab Glyn Walters a gafodd ei lwch wedi eu gwasgaru ar y cae) fod yr achlysur yn dwyn "atgof trist, dirdynnol, bythgofiadwy" iddo.
Gyda'r ddefod sanctaidd ar ben, roedd hi'n bryd edrych tua'r g锚m olaf. Ac fe ddaeth y dorf o bedwar ban. Un o'r sawl oedd yno yn ystod yr wythnos olaf oedd Anthony Davies, brodor o Gaerfyrddin a fudodd i Awstralia. Cafodd lludw ei dad Syd eu gwasgaru ar y maes ym 1989. Fel y dywedodd hanesydd y clwb, Les Williams, "Mae'r gwasanaeth diolchgarwch yn syniad hyfryd gan ein caplan y Parchedig Eldon Phillips... i gofio am y cyn-chwaraewyr a'r cefnogwyr sydd wedi dewis gwasgaru eu lludw yma".
Roedd yr ornest yng Nghwpan EDF yn eithaf difflach, gyda buddugoliaeth hawdd i'r t卯m cartref o 27-0. Roedd nerth amddiffynnol traddodiadol y Saeson yn golygu nad oedd yr un ohonom yn y cae yn disgwyl g锚m agored. Fe gafwyd ambell agwedd fywiog, gyda Morgan Stoddart yn croesi am gais yn y munudau agoriadol wrth i Regan King fylchu. Wedi i Stephen Jones sgorio g么l gosb, croesodd Simon Easterby am gais arall. Gyda'r sg么r ar yr egwyl yn 17-0, doedd fawr o obaith i'r ymwelwyr daro'n 么l, ac fe gynyddodd y pwysau arnynt.
Wrth grwydro'r maes yn ystod y noson, roedd y m么r o goch yn lledu ar draws yr eisteddleoedd a'r caneuon hoff yn cael eu llafarganu bob yn un. Aethpwyd o 'Sosban Fach' i 'Calon L芒n' yn ddiymdrech, ond yn llawn angerdd ac emosiwn. O edrych o gwmpas, ychydig iawn o lygaid oedd yn sych a llawer lais yn groch. Er yr holl ganu yn y dorf, y mwyaf emosiynol o'r cyfan oedd perfformiad Caryl Parry Jones yn ystod hanner amser o'r g芒n a gyfansoddwyd er cof annwyl am Ray Gravell, 'West is Best'. Roedd dagrau hyd yn oed yn llygaid Caryl hithau wrth i sentiment, a rhodd Grav i'r Gorllewin atseinio i bob cornel o'r cae. Un o'r lluniau mwyaf cofiadwy o'r noson fydd, mae'n si诺r, yn cael ei ddangos am flynyddoedd lawer, yw hwnnw o Mari, Manon a Gwenan yn gwerthfawrogi'r perfformiad o'r eisteddle.
Tra ar y cae, fe ychwanegodd Stephen Jones driphwynt arall lai na deng munud i mewn i'r ail hanner. Rob Higgitt, y Cymro o'r gogledd-ddwyrain gafodd yr anrhydedd o sgorio'r cais olaf, yn eironig yn erbyn ei hen glwb. Ond roedd hi'n briodol yn nheyrnas y 'ffatri maswyr' mai'r Cymro Cymraeg Stephen Jones sgoriodd y pwyntiau olaf ar Barc y Strade i gau'r llenni ar gyfnod hanesyddol. Doedd y pwyntiau ddim yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr ornest ei hun, gyda'r fuddugoliaeth eisoes yn sicr. Ond mae enwau Stephen Jones a Rob Higgitt yn sicr o godi 'o seler y cof" (chwedl Alun Wyn Bevan) yn y blynyddoedd i ddod ar lawer cwis.
A fyddai'r un dathliad traddodiadol o Gymreictod ddim yn gyflawn heb g么r. Roedd dau hyd yn oed yn fwy priodol. Fe ddaeth C么r y Sgarlets a Ch么r Meibion Llanelli i'r cae i gyd-ganu 'Sosban Fach' am y tro olaf ar y tir sanctaidd, a'r cyfan yn dod i ben yn y ffordd draddodiadol gyda pherfformiad emosiynol o 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Wedi'r anthem genedlaethol, daeth un cyfle olaf i'r holl gapteiniaid ddod ynghyd i gael tynnu eu llun ar Barc y Strade. Fe ddaeth seiniau Dafydd Iwan ac 'Yma O Hyd' dros y system sain am y tro olaf cyn i'r t芒n gwyllt cochion ddweud ffarw茅l am y tro olaf wrth gant dau ddeg naw o flynyddoedd o hanes.