Datrys dirgelwch yng Nghwmdu Mae Sebastian Resz wedi dod i bentref Cwmdu yn sir G芒r o wlad Pwyl i geisio dod o hyd i'r gwirionedd yn hanes marwolaeth ei hen ddad-cu yn y 1950au.
Mae Sebastian Resz yn treulio'r haf yn ardal Cwmdu, er mwyn ceisio datrys y dirgelwch am ddiflaniad sydyn ei hen ddad-cu - y Pwyliad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre, Cwmdu yn Rhagfyr 1953.
Cliciwch yma i ddarllen am hanes diflaniad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre, Cwmdu yn 1953.
Gwahoddwyd Sebastian Resz draw i Gymru gan Hywel Jones, un o drigolion y pentref, sydd wedi bod yn ymchwilio i mewn i hanes diflaniad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre. Bu ef a Roy Davies yn ymchwilio cyn cyhoeddi llyfr ar y pwnc. Bu Sebastian yn rhannu llety gyda Hywel Jones yng Nghwmdu a gyda Sara Humphreys-Jones yn Llanybyther, cyn iddo gael gwaith mewn cegin tafarn yn Llandeilo.
Mewn cyfweliad dros y ff么n o gartref Hywel Jones, dywedodd Sebastian Resz:
"Rydw i'n bwriadu aros yma tan ddiwedd mis Medi oherwydd rwy wedi cael croeso arbennig. Mae Hywel Jones a Roy Davies wedi bod yn cysylltu 芒 mi ar e-bost ac mi wnaethon nhw fy ngwahodd i draw i aros. Rydw i wedi gweld y llefydd lle oedd fy hen ddad-cu yn arfer byw. Rwy'n mwynhau achos mae gennych chi wlad brydferth iawn.
"Rydw i wedi cael cyfle i siarad gyda llawer o bobl oedd yn adnabod fy hen ddad-cu. Daeth e draw yma ar 么l yr Ail Ryfel Byd a doedd e'n methu dod yn 么l i Wlad Pwyl wedi hynny."
Meddai Hywel Jones:
"Mae'n hoffi ei arhosiad yn fawr iawn ymhlith y Cymry ac mae'n bwriadu dwyn perswad ar ei famgu a'i fam i ddod draw o wlad Pwyl i Gwmdu ddechrau mis Awst eleni, sef merch ac wyres yng nghyfraith Stanislaw Sykut. Bu criw Newyddion 成人论坛 Cymru a chriw Radio Cymru yn adrodd yr hanes yn ddiweddar hefyd."
Cliciwch yma i ddarllen am hanes diflaniad Stanislaw Sykut o fferm Cefn Hendre, Cwmdu yn 1953.