Bardd a Chomiwnydd
Bardd a Chomiwnydd oedd T.E.Nicholas, un a geisiodd gyfuno ei ddaliadau politicaidd a chrefyddol mewn barddoniaeth, gan gynnwys ei gariad at Gymru a'i gyd-ddyn. Yn anochel, mae yna elfen bropagandaidd yn ei gerddi, ond mae'r rhan fwyaf, yn enwedig ei sonedau, yn taro tant ddiffuant a swynol.
Bardd crefftus ydoedd, ac mae ei arddull yn gynnil ac yn gyfoethog ar yr un pryd.
Ganwyd Thomas Evan Nicholas ym 1878 yn Llanfyrnach, Sir Benfro, i deulu o amaethwyr.
Cafodd ei addysg yn Academi'r Gwynfryn yn Rhydaman wrth draed Watcyn Wyn a Gwili, a'i ordeinio yn y weinidogaeth Gynulleidfaol yn Llandeilo.
Bu'n gwasanaethu yn Dodgeville, UDA, Y Glais yng Nghwm Tawe, a Llangybi a Llanddewibrefi yn Sir Aberteifi.
Gyda'r Glais, lle oedd yn weinidog o 1904 hyd 1914, y'i cysylltir ac fe'i adwaenir fel Niclas y Glais, oblegid yno y dablygodd ei syniadau gwleidyddol.
Marcsydd o argyhoeddiad
Keir Hardie, Aelod Seneddol Merthyr, oedd un o'r dylanwadau mwyaf arno ond fe dderbyniodd athroniaeth Karl Marx yn llwyr.
Yn bennaf oll, ceisiodd briodi ei Farcsiaeth 芒'r traddodiad Radicalaidd Anghydffurfiol Cymreig.
Fel colofnydd yn y Merthyr Pioneer, papur Keir Hardie, daeth yn brif ladmerydd yn yr iaith Gymraeg dros y Blaid Lafur Annibynnol, a safodd yn enw'r Blaid honno yn Aberd芒r yn 'Etholiad Khaki' 1918.
Oherwydd iddo gael ei erlyn gan yr heddlu a'i gondemnio gan ei elynion politicaidd a chrefyddol am iddo siarad yn erbyn y Rhyfel, dysgodd Nicholas a'i wraig grefft deintyddiaeth a sefydlu practis ym Mhontardawe ac yna, ym 1921, yn Aberystwyth, lle arhosodd am weddill ei oes.
Comiwnydd pwysig
Roedd T.E.Nicholas ymhlith sylfaenwyr y Blaid Gomiwnyddol ym Mhrydain Fawr ac rhwng 1917, blwyddyn y Chwyldro Bolsieficaidd, a 1945 traddododd dros fil o ddarlithoedd yn amddiffyn yr Undeb Sofietaidd.
Yn 么l Harry Pollitt, Ysgrifennydd y Blaid, Nicholas oedd Cymro mwyaf ei genhedlaeth - tipyn o or-ddweud anochel.
Fe ail-gydiodd yn ei waith fel newyddiadurwr ym 1937 pan ddechreuodd gyfrannu erthyglau i'r Cymro o dan y teitl 'O Fyd y Werin', a sefydlodd y cyfnodolyn byrhoedlog Llais y Werin.
Ei garcharu
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe'i carcharwyd am ddau fis, ynghyd 芒'i fab Islwyn, ar gyhuddiadau ffug parthed eu gelyniaeth i'r Rhyfel, ond wedi ymgyrch rymus gan y mudiad Llafur cawsant eu rhyddhau.
Roedd yn fardd toreithiog. Cerddi gwleidyddol a geir yn y cyfrolau Salmau'r Werin (1909), Cerddi Gwerin (1912), Cerddi Rhyddid (1914) a Dros eich Gwlad (1920).
Neges apocalyptig sydd i'r rhan fwyaf, ond defnyddia eironi ac elfennau telynegol hefyd.
Yn ei gyfrolau diweddarach mae'r bardd yn ffrwyno ei rethreg i raddau heb guddio ei neges: Terfysgoedd Daear (1939), Llygad y Drws (1940), Canu'r Carchar (1942), Y Dyn a'r Gaib (1944), Dryllio'r Delwau (1941) ac Rwy'n Gweld o Bell (1963).
Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol Saesneg sy'n dwyn y teitl Prison Sonnets (1948) ac ymddangosodd y casgliad Tros Ryddid Daear (1981) ar 么l iddo farw.
Bu farw T. E. Nicholas yn Aberystwyth ym 1971.
Meic Stephens