Cystadleuaeth Addurno Coed Nadolig
Ar Ragfyr 7, 2004 daeth dros 500 o ddisgyblion ysgol y de orllewin, i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne ger Caerfyrddin, i gymryd rhan mewn Diwrnod Addurno Coed Nadolig blynyddol. Roedd pob ysgol yn gyfrifol am addurno coeden o dan y thema "Nadolig wedi ei ailgylchu, ail ddefnyddio ac ail wneud." Beth am fynd draw i'r Ardd Fotaneg, cewch weld yr holl goed yno tan ddechrau Ionawr. Dyma luniau amrywiol, gan gynnwys rhai o'r enillwyr.
|