Lluniau o griw Clebran yn darlledu'n fyw ar y Post Cyntaf, 成人论坛 Radio Cymru
Cyn cychwyn ar y daith, meddai Garry:
"Mae cyffro mawr yn ein t欧 ni ar y funed. Mae'r Nadolig yn agos谩u a gair yr wythnos yw "pacio"! Mae'r anrhegion Nadolig i'w lapio wrth gwrs, ond mae hefyd yn amser dodi pethe yn barod i'w pacio ar gyfer taith Nadolig y Post Cyntaf sy'n dechre' ar ddydd Llun y 11eg.
Mae cymaint i'w wneud a'r amser yn brin, felly er mwyn bod yn drefnus gwell i fi lunio rhestr o beth sy' angen arna i cyn dechre ar y siwrne o Benybont i Grymych, wedyn lan i Langadfan a Llanrug cyn gorffen yn yr Wyddgrug.
1. Map. Does dim gyment 芒 hynny o bobol o gwmpas i'w holi ben bore ar y stryd os ydw i ar goll yn llwyr. Y peth calla felly yw trefnu'r siwrne mlaen llaw ... a chadw map yn gyfleus ... rhag ofn! Nawr te' beth yw'r ffordd gyflyma i fynd o Tabernacl Penybont ar Ogwr ddydd Llun, i Gaffi Becca ger Crymych dydd Mawrth ac o fanna lan i ganolfan gymunedol Llangadfan ddydd Mercher cyn teithio i'r Stiwt yn Llanrug ddydd Iau a dod 芒'r daith i ben yng nghapel Bethesda`r Wyddgrug ddydd Gwener.
2. Het . Dyw Rhagfyr ddim yn un o'r misoedd mwya' caredig o ran y tywydd a phan bod 'da chi steil gwallt tebyg i fi ... mae het yn hanfodol! Fe dd'wedod hen ewyrth wrtha i un tro, eich bod yn colli mwy o wres o'ch pen nag unrhyw ran arall o' corff ... felly het amdani! Ond pa het? Y llynedd fe gafodd t卯m y daith hwyl i'w ryfeddu am yr het fach wlanog y bues i yn ei gwisgo . Efallai mai doeth fydde buddsoddi mewn het fach newydd eleni felly!
3. Papur a phensil. Does dim cyfrifiadur ar daith, ac mae'n syndod faint o negeseuon pwysig, rhifau ff么n a chyfeiriadau sydd angen eu nodi .
4.Crib (j么c!!!)
5. Peiriant recordio a digon o dapiau: dyma y peth mwya hanfodol er mwyn cadw sgyrsiau byrlymus, eitemau difyr a stor茂au di-ben-draw y daith ar gof a chadw.
6. Digon o siocled a gwin i'r cynhyrchydd druan sy'n dod mas ar daith gyda fi, mae'r geiriau "amynedd Job" yn dod i feddwl!
7. Cop茂au o bapurau bro Yr Hogwr, Clebran, Plu'r Gweunydd, Eco'r Wyddfa a Papur Fama. Dyma'r papurau sydd yn rhan o daith 2006. Nhw fydd y golygyddion a nhw fydd yn dewis a chyflwyno y stor茂au.
'Rwy'n meddwl mai dyna'r cwbwl am nawr. Yr unig beth sy ar 么l i'w wneud nawr yw y gwahoddiadau. Mae hynny yn ddigon hawdd ... 'Annwyl ddarllenwyr a gwrandawyr y Post Cyntaf. Dewch i fwynhau ein taith Nadolig eleni, gyda help papurau bro Cymru . Os byddwn ni yn galw heibio i'ch ardal chi, dewch draw i'n gweld ni. Os na allwch chi neud hynny wel croeso mawr i chi ymuno 芒 ni bob bore ar Radio Cymru ... yn eich bro unrhyw bryd. Well mynd n么l at y pacio!'
Hwyl Garry"
Manylion yr wythnos
Bydd timau pump o bapurau bro Cymru yn dod 芒 phersbectif ffres i'r rhaglen o lygad y ffynnon drwy ddewis straeon ar gyfer y rhaglen, dod o hyd i gyfrannwyr lleol a chadw trefn ar y cyflwynwyr!
Mae hanes papurau bro Cymru yn stori o lwyddiant anhygoel yng ngwahanol ardaloedd Cymru, a phob un gyda'i steil a'i hunaniaeth ei hun.
Mae golygyddion y papurau bro yn hen lawiau ar chwilio am stori, sgrifennu, casglu a golygu a hynny yn erbyn dedleins tynn bob mis. A dyma'r dewis perffaith felly wrth i Post Cyntaf chwilio am olygyddion gwadd i'r rhaglen.
Dyma'r papurau bro sy'n cymryd rhan a lleoliadau'r darlledu: