Lluniau o'r penwythnos
Dau ddiwrnod llawn o gerddoriaeth byw ar draws tri llwyfan; yn gerddoriaeth ddawns, bandiau Cymraeg a bandiau di-Gymraeg (rhai yn fwy enwog na'i gilydd) - a hyn oll llai na phum munud o 'nghartref - gwych!
Dim ar chwarae bach mae mynd ati i drefnu g诺yl gerddorol yng Nghaerfyrddin, yn enwedig cynnal digwyddiad mor fawr 芒 Macs a hithau ond yn ei hail flwyddyn. Ac oedd, mi oedd 'na broblemau bychain - diffyg cynulleidfa yn un peth - ond er gwaethaf hyn, roedd hi'n benwythnos hollol wych!
Disgrifiwyd Caerfyrddin fel tref gyda "an undeniably down at heel and cheerless atmosphere which doesn't encourage you to stay for long..." yn y llyfr The Rough Guide to Wales a dyma beth ysgogodd dwy ferch ifanc o'r ardal i fynd ati i drefnu g诺yl fawr, fyddai'n denu pobl i'r ardal ac yn ceisio rhoi Caerfyrddin ar fap y gwyliau cerddorol ym Mhrydain.
Roedd amrywiaeth mawr o fandiau yn chwarae o 12 y prynhawn tan 1 y bore ym Mhabell Cymdeithas yr Iaith, ar y llwyfan dawns ac ar y Prif Lwyfan, ac roedd 'na DJs yn chwarae yn y babell orffwys oedd yn llawn matiau ar y llawr i gael gorffwys am ychydig rhwng yr holl ddawnsio!
Roedd pabell Cymdeithas yr Iaith yn llawn trwy gydol y penwythnos ac yr uchafbwynt heb os oedd set Derwyddon Dr Gonzo i gloi dau ddiwrnod, yn fy marn i hollol wych, o gerdd-oriaeth orau Cymru. Aeth y babell yn hollol wyllt yn ystod y Derwyddon nos Sul, pawb yn dawnsio i'w cerddoriaeth ffynci; dyma fand sydd yn gwella a gwella o hyd - ewch i'w gweld nhw'n fyw da chi!
Bandiau eraill a fwynheais ym mhabell Cymdeithas yr Iaith dros y penwythnos oedd Fflur Dafydd a'r Barf, Cowbois Rhos Botwnnog, Pwsi Meri Mew, Endaf Presley - mae'r rhestr yn un faith! Gyda thri llwyfan roedd wastad rhywbeth i'w weld, er ei fod yn golygu rhedeg o un llwyfan i'r llall ar brydiau!
Nos Sadwrn, roedd Killa Kella yn ardderchog - fel llynedd. Mae wir yn werth eu gweld nhw'n perfformio'n fyw, dwi'n cofio bod yn hollol gegrwth pan welais i e'n 'beatbocsio' am y tro cyntaf, waw! Plan B oedd yn cloi'r noson, a nes i rili fwynhau'r set ond falle nad ydyn nhw'n fand i ddenu niferoedd? Er hyn, roedd Meic Stevens, Radio Luxembourg a'r Magic Numbers yn chwarae ar y prif lwyfan nos Sul a doedd dim mwy o bobl i'w gweld yno na'r noson gynt.
Roedd Meic Stevens yn dda iawn, er ei fod yn mynnu siarad Saesneg gyda'r gynulleidfa, nes iddo sylweddoli bod y rhan fwyaf o'r gynulleidfa am glywed caneuon fel 'Merch y ffatri wl芒n' yn Gymraeg! Cefais fy siomi ar yr ochr orau gan y Magic Numbers; doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i am fwynhau eu set nhw, ond roedden nhw wir yn dda! Er fod 'na brinder cynulleidfa, roedden nhw fel pe baen nhw'n chwarae i filoedd o bobl.
Er bod y lle yn teimlo'n reit wag, roedd 'na awyrgylch gr锚t ar faes yr 诺yl, pawb yn mwynhau ond pawb gyda'r un g诺yn - diffyg pobl! Lle oedden nhw gwedwch?! Roedd yr hysbysebu wedi bod yn dda, y bandiau, hyd y gwelaf i yn plesio pob chwaeth cerddorol, felly lle roedd y bobl, yn enwedig rhai Caerfyrddin? Falle mai'r pris o 拢45 am y penwythnos oedd yn cadw pobl i ffwrdd - neu Bryn F么n yn ei gig flynyddol yn Sioe Llandysul?! Beth bynnag fo'r rheswm, gobeithio na fydd hyn yn effeithio ar barhad yr 诺yl.
Yr hyn sy'n bwysig, yn fy marn i, yw bod y trefnwyr wedi llwyddo i gynnal g诺yl gwbl ddwyieithog, heb wneud gormod o ffws yngl欧n 芒 iaith - roedd yr 诺yl yn hollol naturiol Gymraeg a Saesneg, a phobl na fyddai'n mynd i weld bandiau Cymraeg fel rheol yn cael gweld rhai gwych a bandiau llai yn cael cyfle i chwarae ar lwyfan mawr yn cefnogi bandiau llwyddiannus a phoblogaidd.
Roedd hi'n bendant yn benwythnos i'w gofio, a'r trefniadau i gyd yn gr锚t. Boed i'r 诺yl barhau i dyfu!
Lowri Johnston