Ar ddydd Iau 1af o Fawrth roedd plant o 12 o ysgolion cynradd y cylch yn canu a dawnsio yn y babell fawr ar Sgw芒r Nott, ger Castell Caerfyrddin.
Cafwyd perfformiadau cofiadwy gan blant Ysgolion Griffith Jones, Ysgol y Fro, Ysgol Brechfa, Ysgol y Santes Fair, Ysgol Ddawns Steps, Ysgol y Model, Ysgol Llangynnwr, Ysgol y Dderwen a gan Carys Evans ar y delyn. Darllenwyd Neges Ewyllus Da ar ran pobl Caerfyrddin gan Faer y Dref. Trosglwyddwyd y neges, ynghyd 芒 negeseuon o Dyddewi, Hendy-gwyn ar Daf ac Abertawe i'r Senedd yng Nghaerdydd erbyn diwedd y prynhawn.
Rhwng 12.30 a 1.30 cafwyd cinio yn Neuadd San Pedr a oedd wedi ei drefnu ar gyfer pobl busnes y dref. Bwriad y cinio a noddwyd gan Gastell Howell, oedd rhoi cyfle i fusnesau Caerfyrddin i ddysgu mwy am sut i baratoi ar gyfer yr Eisteddfod. Cafwyd cyflwyniadau yngl欧n 芒'r Urdd a thrafodaethau am wersi Cymraeg i staff, baneri a fflagiau, ac arwyddion a bathodynnau dwyieithog.
Ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth, cafwyd cyfle i weld cyflwyniadau gan bobl ifanc Ysgolion Uwchradd ac Aelwydydd lleol yn y babell fawr ar sgw芒r Nott. Cafwyd diwrnod llawn gweithgareddau gan gynnwys digon o ganu a dawnsio gan Martyn Geraint, a digon o s诺n gan fandiau roc lleol.
Trefnwyd gweithgareddau penwythnos G诺yl Ddewi gan bartneriaeth marchnata Caerfyrddin sydd yn cynnwys yr Urdd, Cyngor Tref Caerfyrddin, Siambr Fasnach Caerfyrddin, Menter Taf Myrddin, Cynllun Gwyliau Caerfyrddin a'r Bwrdd Iaith.
Mae'r ymgyrch i baratoi canol Caerfyrddin ar gyfer yr Eisteddfod wedi dechrau. Ceir mwy o wybodaeth yngl欧n 芒 sut allwch chi archebu baneri a 'bunting' yn rhifyn mis Ebrill o bapur bro Cwlwm.
|