³ÉÈËÂÛ̳


Explore the ³ÉÈËÂÛ̳

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



³ÉÈËÂÛ̳ Homepage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Noson Siomedig yng nghwmni Gogz, Caban a Maharishi

GogzI feddwl ei bod hi’n ddechra’ mis Awst a’r tywydd wedi bod yn reit ffafriol hyd yn hyn ‘dwi’n meddwl fod tywydd dechra’ wythnos y ‘Steddfod wedi rhoi downar ar bobol, a doedd yr awyrgylch ddim fel yr oeddwn i’n ei ddisgwyl.

Gwag oedd pabell Maes B a doedd adborth y gynulleidfa ddim yn galonogol iawn. Ond gan mai dechrau’r wythnos oedd hi fe alla i faddau i’r nifer aeth i gig Gogz, Caban a Maharishi.

O glywed hanes y gigs eraill sydd wedi bod hyd yn hyn, dechra’ gwan iawn sydd wedi bod y flwyddyn hon.

Dydw i ddim yn meddwl fod cael Gogz i ddechra’r noson wedi helpu ‘chwaith. Siomedig oedd perfformiad y band yma i mi. Roedd llawer o’r caneuon yn undonog a ni chafwyd dim amrywiaeth. O’n i’n teimlo nad oedd y band wedi rhoi cant y cant i’r perfformiad ‘chwaith. Doedd ‘na ddim egni tu ôl i’r perfformiad ac o ganlyniad i hyn siomedig iawn oedd adborth y gynulleidfa.

Dim ond llond llaw oedd i fyny’n dawnsio ac yn dangos eu cefnogaeth i’r band, a’r gweddill yn clecio peintiau wrth ochr y bar heb gymryd dim diddordeb yn y grwp.

Roedd perfformiad Caban yn llawer gwell. Buan iawn roedd pobol yn gadael y bar ac yn codi i ddawnsio ac i weiddi ar y band. Roedd yr egni yn amlwg y tu ôl i’r caneuon ac roedden nhw i weld fel tasa nhw’n mwynhau eu hunain gymaint â’r gynulleidfa.

MaharishiAwyddus oedd pawb i glywed uchafbwynt y noson, sef Maharishi. Heblaw bod Maharishi wedi bod yn perfformio neithiwr byddai nifer y gynulleidfa wedi bod yn llawer llai.

Roedd llwyddiant y noson yn dibynnu arnyn nhw. Credaf bod y gynulleidfa wedi mwynhau ac yn falch eu bod wedi dod. Ond fe fyddwn i’n anghytuno â mwyafrif y gynulleidfa a dweud mai Caban oedd uchafbwynt y noson. Mi wnes i fwynhau yn fawr iawn ac efallai byddai’r band wedi bod yn well na Masharishi i orffen y noson.

Ar y cyfan reit siomedig oedd y noson. Dim y grwpiau oedd yr unig fai am hyn ond roedd nifer y gynulleidfa a’u diffyg cefnogaeth nhw wedi creu awyrgylch isel iawn. Gobeithio y bydd bandiau weddill yr wythnos yn well ac y bydd y tywydd yn gwella hefyd er mwyn codi hwyliau yr Eisteddfodwyr.
Straeon Eisteddfod 2001:
³ÉÈËÂÛ̳
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy