MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Gwnewch yn fawr o'r noson ‘Roedd dydd Iau yn ddiwrnod anhygoel ym Mhabell Dinistr, wrth i’r Anhygoel (ia, clyfar iawn dwi’n gwybod) arddangos eu caneuon diweddaraf. Fel sydd yn dechrau dod i’r amlwg erbyn hyn mae yna newidiadau mawr wedi bod yn aelodaeth Yr Anhygoel. Erbyn hyn, er enghraifft, mae un o aelodau Gwacamoli yn cadw cwmni i Ywain Gwynedd. Gellid dadlau fod Gwacamoli wedi bod yn rhyw fath o ddylanwad ar Yr Anhygoel hefyd, gan fod caneuon newydd y grwp yn dibynnu’n helaeth ar arddull roc. ‘Roedd eistedd yn y babell roc yn gwrando ar grwp sydd wedi datblygu cymaint yn wefr a dweud y lleiaf, a does yna ddim amheuaeth i Ywain fwynhau’r profiad yn arw. Yn ystod gig ar Faes B brynhawn Mercher ‘roedd y grwp yn ddigon anffodus i gael presenoldeb yr enwog Rhys Ifans yn y bar, felly doedd yna fawr o sylw yn cael ei roi i gerddoriaeth Yr Anhygoel!! Fydd yna ddim cryno disg newydd gan y grwp am dipyn, gan eu bod yn awyddus i ganolbwyntio ar gigs a datblygu’r gerddoriaeth ymhellach; ond pan fydd y cynnyrch newydd hwn ar dâp chi fydd y cyntaf i wybod … Cefais fy siomi ar yr ochr orau gydag Ap Ted a’r Apostolion. Doeddwn i ddim yn or-hoff o’r albym Pastorama, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn mwynhau eu perfformiadau o ganeuon Edward H. Dafis dipyn yn fwy. Braf oedd clywed rhyw fymryn o’r rheini brynhawn Iau felly, yn ogystal â thraciau fel Rhywbeth Bach a Merch Ty Cyngor gan yr anfarwol Geraint Jarman. Wedi dweud hynny, mae caneuon gwreiddiol Ap Ted yn llawer mwy effeithiol yn fyw, felly diddorol fyddai clywed mwy o ganeuon Jarman ac Edward H. ar gryno ddisg, rhag ofn mai grwp ar gyfer y llwyfan yn unig ydi Ap Ted a’r Apostolion … Mi fydd dydd Gwener yn ddiwrnod a hanner ym Mhabll Dinistr, gydag Estella, Chouchen, Anweledig a’r Big Leaves yn perfformio. Yna mi gawn ni fynd draw i Faes B gyda’r nos er mwyn mwynhau perfformiad olaf Diffiniad ERIOED!!! Yn syml, felly, gwnewch yn fawr o’r noson …
| |
© MMI |
|
About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |