MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Cadwyn yn uno Cymru a鈥檙 Affrig Annog masnachu â gwledydd tlawd Mae arddangosfa o grefftau Gorllewin Affrica yn stondin Cadwyn ar faes yr Eisteddfod eleni. Cafodd yr arddangosfa ei hagor gan Mde. Kadi Friqqit, ar ran llywodraeth Burkina Faso, ddydd Sadwrn. Mae鈥檔 cynnwys crefftau o chwe gwlad sy鈥檔 rhan o Gymuned Economaidd ECOWAS a gafodd ei sefydlu yn 1976. Hybu cydweithrediad Mae ECOWAS yn hybu cydweithrediad rhwng gwledydd Mauritanie, Senegal, Gambia, Mali, Burkina Faso, Nigeria, Togo, Benin, Ghana, Cote D鈥橧voire, Guinee a Guinee Bissau. Mae鈥檙 Gymuned felly鈥檔 cynnwys rhai o wledydd tlotaf y byd. Bwriad Cadwyn drwy osod yr arddangosfa yn eu stondin yw "codi ymwybyddiaeth ac undod rhwng Cymru a鈥檙 Affrig." Dywedodd Sioned Elin, cyfarwyddwraig Cadwyn: "Mae gwladwriaeth fach Luxembourg (gyda degfed rhan o boblogaeth Cymru) yn cyllido rhwydweithiau o bentrefi crefftau yn Niger a Burkina Faso. Galw am hawliau "Mae鈥檔 bryd i bobol Cymru ddeffro i鈥檞 cyfrifoldebau cydwladol, a galwn am hawliau i鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol fedru cynorthwyo gwledydd eraill." Fe fydd Cadwyn yn canolbwyntio ar un wlad bob blwyddyn o hyn nmlaen. Meddai Ffred Ffransis, "Dyma鈥檔 cyfraniad bach ni. Rydym ni鈥檔 ceisio tynnu sylw pobol at bob gwlad a鈥檜 hanes a marchnata cynnyrch y gwledydd. Mae pobol Cymru鈥檔 gallu bod yn fewnblyg ac maen nhw angen ehangu. Mae Luxumbourg yn codi cywilydd arnom ni." Yn yr arddangosfa fe ellir darllen am hanes y gwledydd, cyfanswm eu poblogaeth a gweld eu baneri. Mae cyfle i brynu cynnyrch o鈥檙 gwledydd hefyd gan gynwys matiau mwg sydd wedi鈥檜 creu gan grefftwyr dan anfantais corfforol gyda鈥檙 ddraig wedi鈥檌 ychwanegu gan Cadwyn.
| |
© MMI |
|
About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |