MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
Gwenud cawl o deisennau twrci Rownd yn y gegin efo reslar o fri Be ’da chi’n ei gael pan ydych chi’n dod a reslar, ymgynghorydd bwyd ac un o gogyddion amlycaf Cymru at ei gilydd mewn cegin? Mae hi yn resipi berffaith am firi a helynt fel y gwelwyd ar faes y Steddfod pan ymddiriedwyd padelli ffrio a sosbenni i Orig Williams a’i ferch, Tara Bethan, ar stondin fwyd Awdurdod Datblygu Cymru. Yr oeddan nhw yno i goginio un o brydau y gogyddes deledu, Ena, dan gyfarwyddyd Nest Howell, ymgynghorydd bwyd gyda’r Awdurdod a chyflwynwraig rhaglen deledu. Daeth yn eglur iawn, yn fuan iawn, nad oedd rhyddid y gegin yn rhywbeth yr oedd Orig Williams yn gwbl gyfarwydd ag ef a gwnaeth ei deimladau yn glir ar y cychwyn na chredai mai dyma’r lle i ddyn beth bynnag. "Dydi ffedog," meddai, "ddim yn rhywbeth y mae dynion fod i’w gwisgo." Y dasg gerbron oedd coginio Teisennau Twrci yn unol a resipi a baratowyd gan Ena. Yr oedd Ena yno, yn rhes flaen y gynulleidfa, yn edrych gyda mwy o syndod bob munud ar yr hyn yr oedd Orig yn ei wneud i’w danteithfwyd - yn enwedig pan gyhoeddodd yn huawdl; "Peidiwch â gwrando ar y risêt" a mynnu mynd ei ffordd ei hun wrth lwytho’r briwgig rywsut rywsut i’r badell. Problem Nerys Howell oedd, sut mae cadw trefn ar reslar blewog sy’n troi pob cyngor heibio gyda geiriau fel, "Pwy sy’n gwneud hwn - chi ta fi?" A beth oedd menyw i’w wneud ychydig yn ddiweddarach pan ddaeth apêl daer o’r un cyfeiriad - pan oedd y cig mâl mewn stomp ac mewn peryg o losgi’r babell i lawr: "Triwch fy helpu fi, bendith tad ichi." "Ydi’r rhain yn llosgi?" holodd Nerys. "Nac ydyn tad. Be wnaeth ichi feddwl ffasiwn beth," atebodd yr El Bandito gan gymryd llwnc o sudd afal oedd i fod ar gael ar gyfer y saws! Am y tro cyntaf erioed, o bosib, sylweddolodd yr arbenigwyr coginio ei bod hi’n bosib gwneud lobsgows o - wel, o deisennau twrci! A doedd neb yn sylweddoli’n well nag Orig ei hun fod pethau’n mynd o ddrwg i waeth. "Yr ydw i wedi gwneud lot o betha gwirion erioed ond dyma’r peth gwiriona," meddai. Oedd yr oedd petha’n dechrau mynd yn boeth yn y gegin ac Orig yn holi nesa: "Be da chi’n wneud efo’r chwys? Ei roid o yn y sosban?" gan ei daflu’n ffigurol oddi ar ei dalcen a blaen ei fysedd. Aeth pethau’n fwy dyrys fyth pan ganfyddwyd fod winiwnsyn anhepgor ar gyfer y saws blasus ar goll. Er mi gymerodd rai munudau i Orig sylweddoli mai’r un peth ydi winionsyn a nionyn a phenderfynu yn unol a’i ‘athroniaeth peidiwch â gwrando ar y risêt" mai dim ond un ffordd oedd allan ohoni. "Mi wnawn ni’n iawn heb un!" Rhywbeth arall yr oedd yn mynnu gwneud hebddo oedd persli ("Un arall o’r ychafis yna dydw i ddim yn credu ynddyn nhw fo") a phob perlys arall - a hynny, ar sail ei brofiad eang o geginau ar draws y byd. "Yn y Dwyrain Pell hefyd maen nhw’n trio rhoi pob peth mewn bwyd ac mae o’n beryg bywyd," meddai. "Ac yn fanno, fel yn fama does yna ddim toiledau neu maen nhw’n bell i ffwrdd neu maen nhw wedi cau!" Yr oedd Ena pan alwyd hi i’r llwyfan i feirniadu’r coginwaith yn fwy na hael ei chanmoliaeth o’r hyn a wnaed a’i risêt gan roi marciau cyfartal i’r tad a’r ferch. Doedd Orig ei hun ddim mor oddefol o’i ymdrechion ei hun. "Mae gynno ni ddau gi adra - dau deriar. Ac mae’r rhain yn bwyta pob peth, y sglyfaethod ag ydyn nhw - ond tasa chi’n rhoi hwn iddyn nhw mi waranta i na fyddan nhw ddim yn ei fwyta," rhybuddiodd Ena cyn iddi roi ei fforc yn ei cheg. Ond fel y gwelodd y gynulleidfa a oedd yn ei dyblau y rhan fwyaf o’r amser fe wnaeth y reslar a’r cyn rychwr pêl-droed ei orau. Fel y dywedodd amdano’i hun: "Yr hyn a allodd hwn, efe a’i gwnaeth - ond doedd ei allu fo ddim yn fawr iawn!" Dyn, yn wir, y byddai’n well gennych ei wahodd am ginio na derbyn ei wahoddiad i ginio!!
| |
© MMI |
|
About the ³ÉÈËÂÛ̳ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |