Er nad yw'r ddrama enillodd iddo'r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd byth wedi ei pherfformio dywedodd yr awdur nad yw'n dal dig - er ei fod yn siomedig.
Yr oedd Dyfed Edwards, awdur a newyddiadurwr sy'n gweithio yn Llundain, yn siarad yn dilyn y cyhoeddiad mai ef enillodd y wobr eleni gyda drama yn ymwneud 藛a theulu milwr a laddwyd yn Affganistan.
Wrth fynegi ei siom dywedodd mai "blueprint" yw drama i rywbeth sy'n cael ei berfformio ac nad yw'n orffenedig nes ei bod wedi ei pherfformio.
"Yr unig reswm y mae dramodydd yn sgwennu drama yw er mwyn iddi gael ei llwyfannu - dyda ni ddim yn sgwennu er mwyn ein pleser ein hunain," meddai.
Dydi drama ddim yn byw nes y mae'n cael ei pherfformio," meddai.
Ond nid oedd yn beio'r Eisteddfod o gwbl na lwyfannwyd hyd yn hyn ei ymgais lwyddiannus y llynedd.
Yn wir canmolodd yr Eisteddfod am ddod 芒 seremoni cyflwyno'r fedal yn 么l i brif lwyfan yr 糯yl.
"Does gen i ddim byd ond diolch i'r Eisteddfod am ddod 芒'r Fedal Ddrama yn 么l i'r pafiliwn - mae hynny yn rhywbeth y dylid rhoi clod iddyn nhw am ei wneud," meddai.
"Mae'n deimlad anhygoel bod yna, yn deimlad gr锚t," meddai.
Ac awgrymodd "un cam bach arall" o berfformio'r ddrama fuddugol neu o leiaf rannau ohoni.
Mewn maes arall mae Dyfed Edwards wedi profi llawer mwy o foddhad fodd bynnag.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau Cymraeg ac mae ganddo gytundeb gyda chyhoeddwr Saesneg i gyhoeddi wyth o lyfrau arswyd dan yr enw Thomas Enson.
Mae dwy o'r rheini eisoes wedi eu cyhoeddi a bydd y drydedd ar gael fis Tachwedd meddai.
Gyda'i lyfrau a'i ddram芒u dywedodd mai ei fwriad yw dweud stori.
"Dwi ddim yn rhywun sy'n trio cyfleu rhyw fath o neges yn ddim byd dwi'n wneud. Dweud stori dwi isio. Storiwr ydw i'n cysidro fy hun. Dyna ydw i eisiau'i wneud. Felly does yna ddim neges na dim byd felly yn y ddrama," meddai.
Mwy
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 成人论坛 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.