Yr oedd eu cwpan yn llawn - wedi i Ferched y Wawr droi pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Bra-filiwn fore Mercher.
Amgylchynodd y Merched ac aelodau o OXFAM y pafiliwn gyda chadwyn o 700 o fr芒s i hyrwyddo eu hymgyrch i ailgylchu'r dilledyn a'u hanfon i wledydd tlawd y byd.
Casglodd Merched y Wawr 13,000 o fr芒s i gyd mewn ymgyrch a gafodd sylw mawr ddechrau'r flwyddyn ond yr oedd y saith gant o fr芒s o bob lliw, maint a llun yn fwy na digon i fynd o amgylch pafiliwn pinc y Genedlaethol.
Ac yr oedd yr amgylchiad bra-wychus yn gyfle nid yn unig i ailgylchu'r hen ddilledyn ond yn gyfle i'r dynion ymhlith yr eisteddfodwyr oedd yn gwylio; ailgylchu hen j么cs bras a bra-idd yn feiddgar.
"Sa well 'da fi weld beth oedd ynddyn nhw?" meddai un Cardi gan anelu ei gamera at y gadwyn o ferched a chwerthin gymaint y byddai wedi byrstio ei fr芒 pe byddai'n gwisgo un.
Ac os clywyd un yn dweud ei bod yn "ddiwrnod bra-f yn yr Eisteddfod fe glywyd ugain.
Ac wrth i Dafydd Islwyn, ysgrifennydd Barddas, ruthro heibio'r gadwyn ar rhyw orchwyl fardd-onol - yn hytrach na bra-ddonol - bwysig clywyd rhywun yn gweiddi ar ei 么l; "Waeth iti heb na rhedeg ar 么l y br芒s na does na ddim byd ynddyn nhw!"
Bra-vo.
Ond yr oedd Merched y Wawr ac OXFAM yn gwbl ddifrifol yngl欧n a'r ymgyrch a gychwynnwyd fis Medi diwethaf.
"Mae gan y rhan fwyaf ohonom ni ferched fr芒 neu ddau yng nghefn y cwpwrdd ac mae hwn wedi bod yn gyfle unigryw i ddangos ein chwaeroliaeth drwy roi bywyd hirach i fr芒s," meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.
Bydd y dillad a dynnodd w锚n i gymaint o wynebau ar faes Eisteddfod Y Bala yn cael eu hanfon yn awr i warws Watersaver OXFAM i'w hanfon i farchnadoedd dillad ail law yn Affrica, Dwyrain Ewrop ac Asia.
A phwy a 诺yr na ddaw hi yn fath o fashion statement yno i ferched frolio; "Mae'r br芒 dwi'n wisgo wedi bod rownd Pafiliwn Steddfod Genedlaethol Cymru."
Arwydd arall o gariad bra-wdol y Cymry.
Mwy
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 成人论坛 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.