I'w thaid - Taid Bryn - y talodd Si芒n Melangell Dafydd deyrnged wedi iddi ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Y Bala.
Enillodd y Fedal yn ei bro ei hun a chael ei anrhydeddu ar faes y gallai weld ei chartref ohono.
"Dyna'r peth pwysicaf oll," meddai.
Hynny a dylanwad ei thaid arni o'i phlentyndod. .
. . "Rydw i wedi cael fy nwyn i fyny lle mae pobl wastad yn dweud storis," meddai.
Ar gyfer sgrifennu ei llyfr rhodiodd bwyslais ar yr iaith leol ac ar iaith yr ofnai ei bod hi ei hun wedi anghofio sut y'i siaredid.
"Dwi di bod yn gwrando ar y math o eiriau mae pobl leol yn eu defnyddio rhag ofn fy mod i wedi tyfu allan ohonyn nhw wrth drafeilio a mynd i goleg a'r math yna o beth," meddai.
Hen 诺r ecsentrig - George Owens - yw prif gymeriad ei gwaith, Y Trydydd Peth, a'r teitl hwnnw yn cyfeirio at y trydydd peth annirnad sydd o'i ychwanegu at hidrogen ac ocsigen yn gwneud d诺r yr hyn ydyw -sylfaen bywyd.
Ond a ddaeth hi o hyd i'r trydydd peth hwnnw yn ei gwaith?
"Dydw i ddim yn meddwl bod modd dod o hyd iddo fo. Mae'n un o'r pethau annelwig yna na all neb roi ei fys arno," meddai.
Heb betruso dywedodd i'r cymeriad hynod George Owens gael ei sylfaenu ar ei thaid.
"Mae taid yn defnyddio'r geiriau yma yn tydi," meddai.
Ond ychwanegodd nad ei atgofion ond ei ffordd o siarad, y gystrawen, sydd yn y gyfrol.
"Hefyd, mwy o hanes lleol na'i hanesion personol ei hun," meddai.
Ac yn hynny o beth dywedodd bod chwedlau yn bwysig iawn iddi.
"A'r math o ffordd y mae pobl yn dweud chwedl - yn dweud stori fel pe byddai'n hanes a hanes fel pe byddai'n stori."
"Mae dylanwad Taid Bryn yn gryf iawn. Mae'r ffordd mae taid neu rywun o'i oedran ef yn siarad yn bwysig iawn - mae o'n rhywbeth yr ydym ni'n mynd i'w golli," meddai.
Er cymaint y pwyslais lleol ar y gyfrol dywedodd mai yn y Pyrenees y sgrifennodd y rhan fwyaf ohoni lle'r aeth i fwydo cathod ei ffrind!
Tra yno gallodd ganolbwyntio yn llwyr ar y sgrifennu am ddau neu dri mis heb ymyrraeth allanol.
"Yr oedd yn nefoedd pur bod yno," meddai, "a'r tirwedd yn fy helpu i sgrifennu am Gymru."
Eglurodd mai camgyfeithiad bwriadol o enw mynydd yno, Montsegur, oedd y ffugenw, Mynydd Segur a ddefnyddiodd ar gyfer y gystadleuaeth.
A chan edrych ymlaen at y dyfodol dywedodd mai cwblhau nofel Saesneg fydd ei gorchwyl nesaf - nofel a roddwyd o'r neilltu er mwyn iddi gael canolbwyntio ar y gyfrol a enillodd iddi Fedal Ryddiaith ei bro ei hun.
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 成人论坛 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.