成人论坛

Tennis heb rwyd na ph锚l

04 Awst 2009

Llun

Trosiad Owen Martell o ddrama ddryslyd Martin Crimp

Adolygiad Alwyn Gruffydd o Ceisio'i Bywyd Hi gan Martin Crimp. Cyfieithiad Owen Martell.

Mae gennyf gof darllen adolygiad o berfformiadau cyntaf Attempts on Her Life gan y dramodydd o Sais, Martin Crimp, gyda'r sylw fod gwylio'r ddrama fel gwylio g锚m o dennis - ond heb y rhwyd!

Ar 么l gweld y cynhyrchiad diweddaraf ohoni gan gwmni Sherman Cymru yn Neuadd Buddug Y Bala yr wythnos hon mae gennyf amheuon dybryd erbyn hyn oes yna b锚l, heb s么n am rwyd, yn y cwrt!

Cyfres o olygfeydd

Hynny, oherwydd mai cyfres - 17 i gyd - o olygfeydd neu "scenarios" yw'r ddrama - pob un yn sefyll yn solet ar ei phen a'i phastwn ei hun. Hynny yw, does dim stori na phlot i'r ddrama neu o leiaf ddim stori a phlot y gellwch roi eich bys arnynt.

Mae'n ddrama haniaethol os y bu un erioed gydag elfennau trasig dychrynllyd fel y mae yna agweddau digrif odiaeth iddi.

Mae realaeth a'r abswrd yn un gymysgfa cwbl fwriadol drwyddi draw.

Yr unig linyn cyswllt yw merch o'r enw Ann, neu Anyia neu Anny.
Ond pwy yw hi?
Beth yw hi?
Ydy hi'n fyw ta'n farw?
Ydi hi'n berson go iawn?
Duw yn unig a 诺yr.

Nid yw'n ymddangos yn berson o gig a gwaed ar y llwyfan beth bynnag ac nid oes tras na hil yn perthyn iddi.

Catalog o amgrymiadau astrus

Beth a geir yw catalog o awgrymiadau astrus sy'n gwrthddweud ei gilydd gan adael y gynulleidfa'n gyfan gwbl yn y niwl. Un funud mae Ann, neu Anyia neu Annie'n derfysgwr rhyngwladol - y funud nesaf mae'n ymdrybaeddu mewn pornograffi - y funud nesaf hi yw'r ferch drws. Rhyw fath o "who done it" a geir yma heb yr un cliw cadarn a diamwys i ddatrys y dirgelwch. Dyna'r swm os nad y sylwedd.

Llifo'n esmwyth

Y nofelydd Owen Martell sydd wedi cyfieithu'r ddrama i'r Gymraeg ac er gwaetha'r teitl, Ceisio'i Bywyd Hi, sy'n swnio'n glogyrnaidd braidd i mi er fy mod i'n deall beth sydd ganddo fo, mae'n gyfieithiad sy'n lifo mor esmwyth ag y mae'r Saesneg gwreiddiol yn ei ganiat谩u.

Mae hi'n ddrama sydd wedi'i chyfieithu i dros ugain o ieithoedd i gyd.

Nid yw'r Martin Crimp yn dynodi maint y cast yn ei gyfarwyddiadau llwyfannu gan adael manion felly i gynhyrchwyr unigol.

Nid yw'n ddrama hawdd o bell ffordd ond fe chwaraeir y pedwar cymeriad sydd i'r cynhyrchiad hwn yn ddeheuig ddigon gan Catherine Ayers, Claire Hingott, Aled Pedrick a Meilyr Sion - pob un yn eu tro yn gosod sawl cameo gerbron y gynulleidfa yn rhoi cipolwg ar rhyw agwedd o fywyd a buchedd Ann, Anyia neu Anny.

Un munud cawn ein goleuo ganddynt - y munud nesaf ein drysu'n llwyr. Oherwydd drama fel'na ydi hi.

O ran y golygfeydd mae "Mam a Dad", "yr Anny Newydd" a'r "Ferch Drws Nesa" yn aros yn y cof, ond mater o chwaeth bersonol yw hynny ac yn tynnu dim o safon a y cyflwyniadau eraill.

Gormesol o normal

Llwyddodd cyfarwyddwr Ceisio'i Bywyd Hi, Arwel Gruffydd, gyda chymorth cynllunydd y set Gerald Tyler a cherddoriaeth tecno'r Acid Casuals, greu awyrgylch sy'n ormesol yn ei normalrwydd.

Caiff y cyfarwydd eu synnu o weld Neuadd Buddug o chwith ar gyfer y cynhyrchiad hwn gyda'r seddau'n wynebu tua'r galeri.

A'r mynediad i'r gynulleidfa felly yn nghefn y set. Ysbrydoliaeth oedd defnyddio gofod y galeri ar gyfer awgrymiad o glustfeino electronig a'r defnydd o gamer芒u cylch cyfyng gan gyfrannu eto at ormes y cyfanwaith.

Mae ymddangosiadau mynych y rheolwr llwyfan yn rhan o'r cynhyrchiad.

Beth yw'r diben?

Beth felly yw diben y ddrama? Oes yna foeswers iddi? Oes yna neges? Ydi hi'n ddrama o gwbl? Mae rhain i gyd, a mwy, yn gwestiynau sy'n rasio drwy'r pen yn ystod ac am oriau ar 么l i'r perfformiad - sy'n awr a hanner o hyd ond yn teimlo'n llawer hwy - ddod i ben.

Cwestiwn arall darodd dyn wrth adael Neuadd Buddug oedd addasrwydd a phriodoldeb cyfieithiad o'r math yma o ddrama fel rhan o'r arlwy theatr dros wythnos ein Prifwyl.

Mae'n hen ddadl mi wn ac nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i gyfieithiadau per sef - ond pe bawn i'n cael y dewis rhwng defnyddio'r Eisteddfod Genedlaethol i ddathlu talentau ein dramodwyr cynhenid a llwyfannu gwaith Martin Crimp does dim dadl p'run fasa fy dewis arobryn i.

Na, fydd gwylio g锚m o dennis fyth yr un fath eto.


Straeon eraill

Newyddion

Blogiau 成人论坛 Cymru

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012

Canlyniadau

C么r Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

Cylchgrawn

Ffilm

Y celfyddydau

Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.