Y diwrnod wedi iddo fod yn dathlu agor Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe yr oedd Tudur Hallam yn cael ei gadeirio am gyfansoddi awdl a ysbrydolwyd gan ei hen gyfaill.
Ac wrth ei hennill cyflawnodd Tudur siars a roddwyd iddo gan Hywel Teifi pan y'i penododd yn aelod oAdran y Gymraeg yn Abertawe.
"Un o'r pethau cyntaf ddwedodd Hywel wrthyf i pan gefais i mhenodi i Brifysgol Abertawe oedd, 'Ry'n ni'n disgwyl ichi ennill y Gadair i'r adran'.
"Mi gymerodd o chydig o amser ond rydw i o'r diwedd wedi ateb y siars a gwireddu'r bwriad hwnnw," meddai.
Dywedodd bod Hywel Teifi yn "gyfaill mawr" iddo yn ogystal 芒 gwr a edrychai arno o safbwynt edmygedd.
"Yr oedd yn Athro Cymraeg a pharch mawr gen i tuag ato. Hywel oedd e i mi ac mae'n fraint cael cyflwyno'r gerdd yma yn deyrnged iddo," meddai.
A phan ofynnwyd ido beth a dybiai fyddai ymateb Hywel Teifi i'w fuddugoliaeth yn Eisteddfod Blaenau gwent dywedodd wedi ysbaid i feddwl;
"Rwy'n credu y byddai wedi dweud, 'Da iawn rhen foi!'
"Pan fyddwn i'n cwrdd a Hywel y cwestiwn cyntaf odd, 'Shwd wyt ti'r rhen foi?' ac yn aml, yr ail gwestiwn, 'Pryd ti'n ennill y Gadair?'
"Roedd hi yn siars yr oeddwn i'n ei derbyn yn weddol aml ganddo fe," meddai.
Disgrifiodd Hywel Teifi fel person yr oedd ganddo barch mawr iddo fel ysgolhaig ac ymgyrchydd iaith.
"Yr oedd yn ffigwr tadol hefyd, yn gefn inni yn yr Adran bob amser - roeddech chi'n gwybod, dim ond codi'r ff么n a byddai Hywel yn eich helpu chi gydag unrhyw beth felly rwy'n falch iawn bod hon yn deyrnged briodol. Dyna oedd y cymhelliad," meddai Tudur Hallam mewn cyfarfod gyda'r Wasg wedi'r seremoni ar lwyfan y Brifwyl.
Dyweodd nad oedd yn fwriad ganddo gystadlu yng Nglynebwy ar y cychwyn.
"Y testun oedd 'Ennill Tir' ac ar 么l marwolaeth Hywel gwrando ar ailddarllediad o gyfweliad rhyngddo ef a Beti George a fynte'n s么n am adennill tir yn y cymoedd a finne'n meddwl bod yn rhaid imi geisio canu teyrnged briodol iddo ar y testun yma," meddai.
Disgrifiodd yr awdl fel teyrnged gyda stori ynddi hi.
"Mae na stori yn y gerdd, mae na naratif," meddai. "Yr hyn sy'n digwydd ynddi yw bod yna hen 诺r yn dwrdio plant am ganu calennig ac yn gofyn i'r adar ganu iddo fe. Yn gofyn i'r cyffylog ond mae e'n dweud 'Na, dim diolch cer i ganu dy hunan' ac mae'n gofyn i'r Wylan wnaiff hi ganu iddo ac mae hi'n dweud ei bod yn anaddas iddi ganu iddo heddi achos mae yna rywun yn s芒l, rhywun yr ydym bron ar fin ei golli ac mae'n dweud 'Pam na fyddi di fel Hywel Teifi yn weithredol a dysgu'r plant ganu'."
Y Gadair
Am y gadair anarferol ei chynllunwaith a enillodd dywedodd:
"Rwy'n dwli arni. Unwaith ces i wybod mi es i chwilio am y gadair ar y rhynrwyd ac yna ei gweld hi ar y llwyfan, meddwl, 'Mae hon yn wych'."
Ond y mae rhywfaint o anhawster lle i'w chadw:
""Mae gennym ni le ar ei chyfer, ond mae problem, mae'r plant yn hoffi rhedeg yn yr ystafell ac rydym ni'n tueddu i'w gadael nhw redeg yn wyllt. Felly fe fydd yn rhaid inni naill ai cadw'r Gadair mewn rhyw ystafell arall neu ddysgu'r plant sut i fihafio!" meddai.
Y feirniadaeth
Yn traddodi'r feirniadaeth o'r llwyfan dywedodd Robat Powell ar ran ei gyd feirniaid Elwyn Edwards ac Idris Reynolds, am yr awdl fuddugol ar y teitl Ennill Tir:
"Awdl y Ddau Aderyn yw hon, a theyrnged i'r diweddar Athro Hywel Teifi, er nad ar y darlleniad cyntaf mae gwerthfawrogi ei chryfderau.
"Ynddi mae hen Gymro yn ardal Aberarth yn tristau na ddaw neb mwyach i gasglu calennig, yna cawn ddialog rhwng y brodor hwn a'r adar - y cyffylog ysgafn ei fryd a'r wylan fwy difrifol.
"I gloi, mewn cyfres o hir-a-thoddeidiau heriol, mae'r wylan yn annog y Cymro, a'r Cymryy i gyd, i fagu agwedd gadarnhaol Hywel teifi, yn enwedig at arddel achos y cymoedd a dysgwyr yr iaith, yr ' . . . allwedd i'r tir a enillwn'.
Yr Wylan yw bardd mwya gwreiddiol a beiddgar y gystadleuaeth. Mae'n cyfleu gwacter y Calan eleni a cholli'r gwe^r o Aber-arth, ac ingol yw cwestiynau'r brodor i'r wylan; 'Ai byw'r iaith yn Aber-arth? / Ai heibio'r aeth Deheubarth?'
"Mae gennym ni amheuon am rai elfennau, fel cymysgu tafodiaith leol 芒 ffurfiau safonol, ac ystyr neu gystrawen ambell linell, a dyw arwyddoc芒d y cyffylog ddim yn gwbl amlwg. Fodd bynnag, Yr Wylan biau'r awdl gryfa' ei hap锚l a'i hergyd eleni.
"Mae rhannau grymus iawn ynddi fel yr englyn i'r golled ar 么l Hywel Teifi Edwards:
Dail ei funudaf olaf - a syrthiant,
Ac os swrth ein gaeaf
Bydd eto hebddo ein haf -
Gwae di'r awr! - gyda'r oeraf.
"Awdl anghyffredin, ond ym marn y tri ohonom ni, yn gwbl deilwng o Gadair y Brifwyl,! Meddai.
Mwy
Blogiau 成人论坛 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...