成人论坛

Glynebwy Gwilym - Llun

02 Awst 2010

Gwilym Owen

Sylwadau Gwilym Owen bob dydd o Brifwyl Blaenau Gwent

Hawddamor o Lynebwy
Roedd gw锚n ar wyneb a sioncrwydd yng nghamau trigolion bro'r Brifwyl.

diolch i weledigrwydd Alun Ffred y Gweinidog Treftadaeth fe gawson nhw ddiwrnod allan ar bwrs y wlad.

Dd么n nhw i'r Eisteddfod eto tybed? Cwestiwn arall ydi hwnnw ond beth bynnag am hynny doedd Nedwyn, ci bach Stafell y Wasg ddim eisiau bod yno o gwbl. Roedd o mor surbwch ag erioed. Pwdodd a chysgodd drwy'r dydd!

Nedwyn y ci bach blin

Ar y dec

Digon digyffro oedd hi ar ddec llong S4C pan alwes i heibio. Roedd hi wedi bod mewn storm go arw ers dyddiau ac ambell weithiwr yn awr yn symud cadair neu ddwy yn ddibwrpas.

Atgoffa rhywun o'r olygfa ar y Titanic erstalwm.

Un o syniadau rhyfedd y Cynulliad Cenedlaethol eleni ydi cynnal cyfres o gyfarfodydd addysgiadol sychlyd ym Mhabell y Cymdeithasau (2).

Heddiw bydd yr Athro Elan Closs Stephens yn trafod dyfodol y gwasanaethau cyhoeddus - gyda gair o brofiad efallai ar 么l treulio misoedd yn ceisio cael trefn ar Gyngor Sir ynys M么n.

Chwythiadau

Codi cap r诺an i ddau 诺r dewr - y ddau sy'n chwythu'r cyrn gwlad yng Ngorsedd y Beirdd ac yn ddigon parod i arddel yr enwau Paul Corn Cynan a Dewi Corn.
Gweinier y cledd.

Dirgel ddydd

Pam nad oes rhagor o nofelau dirgelwch yn cael eu sgrifennu yn y Gymraeg? Dyna'r cwestiwn diddorol y bydd Catrin Beard yn ei ofyn yn y Babell L锚n heddiw.

Gai awgrymu fod y Fones Beard yn cyfeirio darpar awduron i gyfeiriad Parc Ty Glas, Llanisien - pencadlys ein sianel deledu hoff.

Mae yna glamp o ddirgelwch yn fanno. Testun cyfres o nofelau efo cymeriadau go iawn.

tan ddaear

Mae pawb wedi ffoli ar leoliad tanddaearol Y Lle Celf a rhaid cyfaddef ei fod yn ymarferiad llwyddiannus rhyfeddol.

Dim llwch, dim cerrig, dim mwd, dim gwynt, dim glaw.

Beth am gael yr holl jyncet yn y dyfodol o dan ddaeasr?

Dyna beth fyddai torri tir newydd go iawn - er na fyddai yn wyneb haul llygad goleuni.

Gair i gall - rhybudd amserol ar y maes carafanau

Lladron liw nos

Ond gorffen ar nodyn digalon. Och a gwae mae pethau'n fl锚r yn y cysegr eisteddfodol sancteiddiolaf y maes carafannau - y lle, yn 么l y cylchgrawn WA-w!, ble mae'r dosbarth canol Cymreig yn smalio'i slymio hi.

Ond eleni, credwch neu beidio, daeth lladron ac ymosod ar y fangre a throi y gymanfa olwynol flynyddol yn uffern ar y ddaear.

Na, does dim yn gysygredig bellach. Trist iawn. Feri sad.


Blogiau 成人论坛 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.