Glynebwy Gwilym - Mercher
04 Awst 2010
Sylwadau Gwilym Owen oddi ar faes yr Eisteddfod ar y Post Cyntaf
Dechrau gyda chwip din eiriol fach dyner i griw golygyddol y Daily Post. Bore ddoe dim ond ychydig baragraffau ar waelod tudalen oedd ganddyn nhw i nodi buddugoliaeth Glenys Mair Roberts yng nghystadleuaeth y Goron.
Triniaeth hynod o siabi i ferch a anwyd yn Nyffryn Ceiriog ac a faged ar Ynys M么n. Rhag cywilydd.
AS ar goll
Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n dod ar draws David Davies AS Mynwy mewn dipyn o banic.
Roedd cadeirydd newydd y Pwyllgor Seneddol ar faterion Cymreig wedi'i gael ei hun ar y bws wennol anghywir a doedd o ddim mewn tymer rhy dda.
Na, dydi gwleidydd ddim yn lecio cymryd cam gwag yn gyhoeddus!
Awgrym rhyfeddol
Cam gwag? Tybed na ellid awgrymu fod Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, hefyd wedi cymryd un drwy awgrymu y carai weld Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd gofal o ddarlledu yng Nghymru.
Dim r诺an ond ymhen blwyddyn. Awgrym rhyfeddol ar 么l iddo fo a'i debyg o bob plaid ddadlau dros y blynyddoedd mai yn San Steffan y dylai'r hawl hwnnw aros.
Sgwn i pam ei fod wedi newid ei feddwl ac ai enghraifft o godi'r bais Gymreig yn rhy hwyr yw hyn eto. Cawn weld.
Ar werth
Gweld bod un o golofnwyr y cylchgrawn WA-w! yn honni bod Cadair yr eisteddfod hon yn debyg iawn i gwt cwningen ac y bydd ar eBay ym mis Medi.
Dydw i ddim am fynd mor bell a hynny - mae'n debyg y bydd yn fis Hydref cyn y bydd ar We.
Dysgu gwersi
Roeddwn i'n mynd heibio stondin S4C yn gynnar bore ddoe ac yn clywed s诺n fel petai gwers Gymraeg syml yn digwydd o fewn y cynteddau.
Ac yna deall fod bos newydd y Sianel, Arwel Ellis Owen, wedi dechrau ar y gwaith o loywi iaith y garfan fawr o gyflwynwyr i geisio cael gwared 芒'r fratiaith robotaidd sydd wedi bod yn fwrn i glustiau'r genedl ers degawdau. Pob lwc iddo fo.
Y Fedal
Seremoni fawr y dydd heddiw fydd y Fedal Ryddiaith. Sbloet a phomp gorseddol i wobrwyo cyfrol y bydd y sefydliad eisteddfodol yn ei chlodfori ond na fydd prin neb yn ei darllen ac yn sicr, yn 么l traddodiad, na ddaw yn agos at ennill gwobr fawr tyr Academi fel Llyfr y Flwyddyn yr haf nesaf.
Trydarwr
Un o gwestiynau mawr yr wythnos i mi yn bersonol ydi pwy ydi'r dihiryn sydd wedi rhoi negeseuon ar 'Twitter' yn fy enw i?
Diawl, fedra i ddim defnyddio cyfrifiadur, felly, pwy bynnag sy'n ffugio sylwadau ar y bali we yn fy enw, Peidied. R诺an!
????????
Un cwestiwn pwysicach o lawer cyn gorffen. Heno, bydd yn wythnos union ers diflaniad Iona Jones yn brif weithredwr S4C.
A'r hyn y mae pawb yn ei holi ar faes y Brifwyl ydi am ba hyd y mae'r oruchwyliaeth newydd am wrthod esbonio i'r genedl beth yn union ddigwyddodd y tu 么l i ddrysau caeedig y pencadlys.
Digwyddiad a all beryglu hygrededd gweinyddiaeth y Sianel am byth. Mae'n gwestiwn y bydd yn rhaid i rywun ei ateb.
Blogiau 成人论坛 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...