Y Lle Celf
Kate Crockett yn crwydro arddangosfa 'Y Lle Celf'
Dwy ford yn ennill medal
Bydd hi'n anodd i ymwelwyr Y Lle Celf eleni beidio 芒 sylwi ar waith enillydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain eleni, sef Y Ddwy Ford gan David Hastie.
Gwaith gosod yw hwn a'r darn mwyaf yn yr arddangosfa; dwy ford bren hir, syml, gyda phont siglo fechan ar draws y bwlch rhyngddynt ar un pen, a chaer fetel bygythiol yr olwg ar y pen arall.
Wn i ddim a oedd y we pry cop a'r corynod a oedd wedi gorchuddio'r gaer yn rhan fwriadol o'r gwaith ai peidio ond yn sicr roedd yn ychwanegu at y teimlad o ddirgelwch sy'n perthyn i'r gwaith hwn: mae'n ddarn sy'n apelio'n fawr at y dychymyg.
Chwalu llestri
Yn ennill canmoliaeth uchel eleni mae gwaith fideo David Cushway, sy'n dangos llestri te yn cael eu chwalu - gyda'r ffilm wedi'i harafu i ddangos harddwch rhyfedd y broses.
Ond gwaith fideo gan artist arall a apeliodd fwyaf ataf i. Yn Croeso i Gymru/Welcome to England mae'r camera yn ffilmio (o bellter) dyn ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, rhwng Sir Y Fflint a Chaer. Ar stryd ddi-nod yr olwg, mae'r dyn yn croesawu pobl i Loger yn Saesneg, "Welcome to England" ac wrth wynebu'r cyfeiriad arall, mae'n dweud "Croeso i Gymru". "I haven't got time, I'm in a rush" medd un person wrtho, gydag un arall yn gwrthod y croeso gydag un gair: "No."
Mae'n waith sy'n ddoniol ac yn bryfoclyd ar yr un pryd ac yn codi cwestiynau am natur y berthynas rhyngom ni 芒'n cymdogion yr ochr arall i'r ffin.
Tua'r gorllewin
Edrych tua'r gorllewin mae'r ffotograffydd Aled Rhys Hughes gyda dau ffotograff enfawr trawiadol o'r m么r yn Rhosili.
Ar yr olwg gyntaf mae'n anodd gweld beth yw graddfa Rhyw Deid 2 a Rhyw Deid 3 ond o graffu'n agosach gwelwn un ffigwr dynol yn y naill lun a' r llall.
Rydym yn gyfarwydd 芒 theimlo'n fychan wrth syllu ar y s锚r ac mae'r lluniau hyn yn cyfleu'r un teimlad mewn perthynas 芒'r m么r.
Darlunio elfennau o'n diwylliant traddodiadol mae dau ffotograffydd arall, Haydn Denman a Marian Delyth. Eisteddfod Abergorlech 2005 yw teitl un llun gan Haydn Denman ond pe na bai dyddiad arno byddwn wedi dyfalu iddo gael ei gymryd tua 1955.
Mae dau ddyn yn eistedd ar ochr y llwyfan yn craffu ar ryw ddigwydd na allwn ni ei weld; un ag wyneb comig a'r llall yn fwy trasig, fel y masgiau hynny a ddefnyddir i symboleiddio byd y ddrama.
O'r capeli
Capeli yw testunau Marian Delyth ond yn hytrach nag edrych ar yr adeiladau o'r tu allan, mae hi wedi troi ei chamera i edrych allan drwy'r ffenestri, gan ymwrthod yn llwyr 芒'r delweddau ystrydebol o gapeli.
Mae ei lluniau yn y gyfres Drych hefyd yn ystumio'r golygfeydd arferol - wrth edrych i'r drychau bach hynny a ddefnyddir ar gyffyrdd yng nghefn gwlad, rydym yn gweld golwg arall ar y tirlun.
O dan un drych mae yna arwydd ffordd yn dangos i ba gyfeiriad mae'r Oriel - ond mae celfyddyd hefyd i'w weld yn yr adlewyrchiad hynod yn y drych uwch ei ben.
Rhyngwladol
Gwaith cyfoes, rhyngwladol ei naws sydd gan David Garner, ac mae un darn, Chwyddleisio Anoddefgarwch, wedi'i ysgogi gan sylwadau ymfflamychol yr awdur Martin Amis am Fwslemiaid. Mae testun ei eiriau anoddefgar wedi'u gosod ar uchelseinydd - ond llafarganu dwyreiniol sydd i'w glywed.
G诺yl grefyddol yn Sbaen yw testun lluniau Robert Greetham - ond tybed nad oes yna rywbeth bygythiol yn y gwisgoedd a'r mygydau duon?
Y llynedd cafwyd siom na ddyfarnwyd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio - ond eleni roedd gwaith arian cain Suzie Horan wedi plesio'r beirniaid.
Rhoddwyd Canmoliaeth Uchel i Bethan Ash am ei chwiltiau - go brin ei fod yn gyfrwng a gysylltir yn aml 芒 hiwmor, ond rhaid cyfaddef bod ei gwaith Cutting the carbs, again yn arddangos geiriau fel pasta, cake a chips wedi codi gw锚n.
Charles Byrd
Ni allwn s么n am ymweliad 芒'r Lle Celf heb gyfeirio at yr arddangosfa hynod o waith Charles Byrd, artist 92 oed a chreawdwr rhai o'r peiriannau hynotaf a welais erioed.
Cerfluniau cinetig yw ei ddisgrifiad ef o'r creadigaethau lliwgar hyfryd hyn, sy'n edrych fel petaent yn perthyn i ffatri Willy Wonka.
Cawson nhw eu creu yn y Saithdegau allan o bob math o hen geriach gan gynnwys beiciau, peiriannau gwn茂o, a phramiau - nid ffenomena newydd yw ailgylchu.
Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys nifer o'i luniau, a gyda chasgliad helaeth o baentiadau o Gaerdydd yn y 1950au, mae'n addas iawn bod yr Eisteddfod wedi tynnu sylw at waith yr artist hwn sydd wedi'i ddisgrifio fel 'Cyfrinach orau Caerdydd'.
Byddai'n braf gallu dweud nad oedd y disgrifiad yn addas bellach erbyn diwedd wythnos yr Eisteddfod.