成人论坛

Fflur Medi Owen sy'n cymryd rhan yn y ddrama

Addo profiad anghyfforddus

Dadl drama cyn ei gweld

Gyda Iesu Grist yn ferch, iaith fras a golygfeydd rhywiol - go brin i gymaint o ddisgwyl fod am ddrama gomisiwn mewn Eisteddfod Genedlaethol ers blynyddoedd lawer.

Ac mae'r dadlau a'r trafod wedi dechrau'n barod yngl欧n 芒 drama ddiweddaraf Aled Jones Williams, Iesu!.

Y darogan yw mai hon fydd y ddrama fwyaf dadleuol eto gan awdur sydd ganddo enw'n barod o fod yn un dadleuol a blaengar.

O'r newydd

Mae rhai Cristnogion wedi dweud yn barod na ddylid mynd i weld y ddrama sydd yn 么l Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru "yn edrych o'r newydd ar arwyddoc芒d croesholiad Crist mewn byd sy'n llawn rhyfel a dioddefaint".

Ac meddai Aled Jones Williams ei hun am y ddrama:

"Mae Iesu! yn gyfle i edrych eto ar y cymeriad hanesyddol ac i ail ddiffinio Cristnogaeth."

Ond mae'n mynnu nad drama grefyddol yw hi ond yn hytrach un wleidyddol - ond un peth sy'n weddol sicr yw y bydd yn tramgwyddo ffwndamentalwyr Cristnogol.

"Er na faswn i'n disgrifio Iesu! fel drama grefyddol fel y cyfryw y mae hi'n godi cwestiynau perthnasol yngl欧n 芒 r么l crefydd uniongred, gan gynnwys fy nghrefydd fy hun, yn arbennig ar 么l Medi'r unfed ar ddeg," meddai.

Pam merch?

Ac yngl欧n 芒'i benderfyniad i osod cymeriad Iesu mewn corff merch dywedodd:

"Bu'r llun a greodd dychymyg dyn o Iesu Grist yn un sy'n ddigon benywaidd ei ffurf gyda'r gwallt hir yna rydan ni i gyd mor gyfarwydd ag o. Rwyf wedi mynd 芒'r ddelwedd yna un cam ymhellach i weld os y bydd y gynulleidfa yn gweld unrhyw arwyddoc芒d yn hynny," meddai.

Bydd Iesu! yn cael ei llwyfannu am y tro cyntaf yn Theatr Sherman, Caerdydd, (029 2064 6900) am saith nos Fawrth yr Eisteddfod gyda pherfformiadau eraill nosweithiau, Mercher, Iau a Gwener.

Yn dilyn perfformiad nos Iau bydd Aled Jones Williams yn cymryd rhan mewn sesiwn i drafod y ddrama.

Bydd trafodaeth hefyd yn Thearr Fach y Maes fore Iau am 11.30.

Gall y ddrama hon yn hawdd fod yn bwnc trafod mwyaf Eisteddfod Caerdydd gyda Cefin Roberts, cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru eisoes wedi dweud na fydd "yn brofiad theatrig cyfforddus."

. Mae'r cast yn cynnwys Gareth ap Watkins, Dafydd Dafis, Dafydd Emyr, Llyr Evans, Mathew Lloyd, Fflur Medi Owen, Dorien Thomas, Llion Williams a Sioned Wyn fel Iesu.

Llyfr a thaith

Cyhoeddir y ddrama gan Wasg Gomer ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn bydd Iesu! yn teithio o gwmpas prif theatrau Cymru:

  • Theatr Gwynedd, Bangor (01248 351708) Iau, Gwener a Sadwrn, 11-13 Medi, 2008.
  • Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) Mercher, Iau a Gwener, 17-19 Medi.
  • Theatr Lyric, Caerfyrddin (0845 226 3508) Mercher, Iau a Gwener, 24-26 Medi.
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug (0845 330 3565) Iau, Gwener a Sadwrn, 2-4 Hydref.
  • Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth (01970 623232) Gwener a Sadwrn, 10-11 Hydref.

Rhagor am Iesu! gan gynnwys cyfweliadau radio gyda'r awdur ac eraill.


成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.