Cyfle i fod yn arwr
Y Bardd Olaf, Dr William Price neu Blodeuwedd?
Bydd cyfle i chi fod yn Flodeuwedd, Dr William Price Llantrisant, Arglwyddes Llanofer neu'n l枚wr yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
A diolch i dynnwr lluniau, Roger Lougher, fe fydd gennych gofnod o'r digwyddiad.
Gydol yr wythnos bydd gan Roger fwth ar faes y Brifwyl lle bydd yn tynnu lluniau o eisteddfodwyr wedi eu gwisgo fel rhai o gymeriadau "eiconig" hanes Cymru - yn eu plith y bardd olaf yn y llun adnabyddus a beintiwyd yn 1774 gan Thomas Jones (1742-1803).
Hefyd, Blodeuwedd, Dr William Price ac Arglwyddes Llanofer.
Bydd hefyd, yn cyhoeddi yn ystod yr wythnos lyfr o luniau meini'r orsedd o bob rhan o Gymru.
Dywedodd Roger, 49, sy'n dod o Fasaleg ger Casnewydd ond sy'n awr yn byw ym Mhenarth iddo gael y syniad am y bwth o sioeau yr hen Orllewin gwyllt yn yr Unol Daleithiau lle'r oedd bythau o'r fath yn boblogaidd iawn yn nyddiau cynnar ffotograffiaeth.
"Fel un sy'n dysgu Cymraeg fe ddechreuais i feddwl beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry a phwy yw'r Cymry eiconig," meddai.
Mae llun cefndir pwrpasol yn cael ei beintio ar gyfer y bwth gan James Charlton a bydd yn bosibl i eisteddfodwyr brynu cop茂au o'r lluniau am 拢5 a gellir tynnu lluniau gyda theleffon poced hefyd. Dywed iddo gael help Edwina Williams Jones, o Marigold Costumes a chwmni Script to Screen gyda'r dillad.
Mae gan Roger, radd MA mewn ffotograffiaeth ddogfennol o Brifysgol Cymru, Casnewydd, a bydd ganddo hefyd arddangosfa o bortreadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Rhwng popeth bydd hon yn eisteddfod brysur iddo gan y bydd hefyd yn cyhoeddi casgliad o 60 o luniau o feini'r Orsedd o bob rhan o Gymru; Rhai o'r holl Feini/ Some of all the Stones.
"Dyma'r tro cyntaf i'r lluniau hyn fod ar gael gyda'i gilydd," meddai gan ychwanegu i rai gael eu prynu gan y Llyfrgell Genedlaethol.
"Fel dysgwr mae gen i ddiddordeb mawr yn y modd y mae'r iaith Gymraeg yn newid y tirwedd ac mae meini'r Orsedd i mi yn arwyddion gweladwy o'r iaith a'r diwylliant," meddai.
Yn costio 拢60 bydd y llyfr 130 dalen yn cael ei lansio heddiw, dydd Sadwrn, ar y Maes.