Steddfod bws a thr锚n
Galw ar steddfodwyr i hepgor eu ceir
Daeth mwy nag un alwad am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer ymweld 芒'r Eisteddfod - ac yn sicr yn ystod eu arhosiad yn y Brifddinas.
"Mi fydd yn hwylus iawn dod i Gaerdydd ac mi rydym yn dal i bwyso i gymaint ag y medr ddefnyddio trafnidaeth gyhoeddus i ddod yma ac i fynd a dod yn y ddinas," meddai Huw Llywelyn Davies, cadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod.
Dywedodd y bydd angen i rai sy'n teithio yno mewn car barcio ar y cyrion yn ardal Leckwith a dal bws wennol i'r maes gan na fydd unrhyw gyfleusterau parcio ger yr Eisteddfod.
Yn dilyn trafodaeth gyda Chyngor Caerdydd, mae'r pris o adael y car a dod ar y bws wedi ei ostwng i 拢3 y car.
Dywedodd Mr Davies hefyd ei bod yn bosibl i rai sy'n teithio ar dren brynu tocyn a fydd yn sicrhau eu cludo o'r orsaf ganolog i'r maes a mynediad i'r maes ei hun.
Gall rhai dros eu 60 oed ddefnyddio eu tocynnau bws i deithio am ddim o fewn y ddinas.