Dathliad y Cymry tramor
Mudiad yn dathlu trigain mlynedd
Ar faes yr Eisteddfod eleni bydd Undeb Cymru a'r Byd yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Dyma'r mudiad a fu ers Eisteddfod Penybont-ar-Ogwr yn 1948 yn hyrwyddo seremoni croesawu y Cymry o dramor i'r Eisteddfod.
A phob blwyddyn ers hynny, ar wah芒n i Eisteddfod Abertawe 2006, bu gan yr Undeb bresenoldeb ar lwyfan y Genedlaethol.
Yn Cairo
Ond er mai trigain mlynedd y mae'r Undeb yn ei ddathlu eleni mae ei wreiddiau yn ymestyn yn 么l fwy na hynny hyd yn oed.
Cairo, yr Aifft, yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd dechrau'r daith a hynny ymhlith bechgyn ifainc o Gymru a oedd yn gwasanaethau gyda'r lluoedd arfog yn y Dwyrain Canol.
Yn ganolog i'r cyfan yr oedd gweledigaeth swyddog ifanc gyda'r RAF, T Elwyn Griffiths o Landybie, yn sefydlu papur newydd Cymraeg ar eu cyfer yn 1943.
Er gwaethaf pob math o anawsterau ymddangosodd Seren y Dwyrain gyntaf fis Hydref 1943 gydag Elwyn yn olygydd.
"Yn y lle cyntaf, y nod oedd bod yn ddolen gydiol rhwng sefydliadau Cymreig a'i gilydd yn y Dwyrain Canol; ond yn fwy na hynny gadw meddyliau y darllenwyr yn effro i'r amryw broblemau a fyddai'n sicr o wynebu Cymru, fel pob gwlad arall, wedi terfyn y rhyfel," meddai Elwyn sydd erbyn hyn yn Llywydd Anrhydeddus Undeb Cymru a'r Byd ac newydd ddathlu ei 90 oed eleni.
Dywedodd fod bywyd Cymraeg byrlymus yn y Dwyrain Canol yr adeg honno gydag chyngherddau a chymanfaoedd canu yn boblogaidd iawn ac fe gynhaliwyd dwy Eisteddfod lwyddiannus iawn yn Cairo a ddaeth i gryn enwogrwydd wedi hynny.
"Nid oes amheuaeth," meddai, "nad oedd Seren y Dwyrain a ddeuai allan yn rheolaidd bob mis yn ganolog i'r gweithgareddau hyn," meddai.
Gweddi'r Arglwydd
Y Seren hefyd fu'n sbardun i wr o'r enw Richard Hughes sicrhau tabled gyda geiriau Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg ochr yn ochr a ieithoedd eraill yn eglwys Pater Noster ar Fynydd yr Olewydd.
Ond nid ar chwarae bach y llwyddwyd i gyhoeddi papur Cymraeg misol mewn dinas fel Cairo - yr oedd yna, er enghraifft, brinder dybryd o'r llythyren 'y' yng ngweithdy'r Eifftiwr o argraffydd a dalennau yn gorfod cael eu chwalu'n syth ar gyfer creu rhai newydd.
Bu hefyd yn fodd i grisialu ym meddwl Elwyn a milwyr eraill pa mor ddiffygiol oedd y cysylltiad rhwng Cymru a'i bechgyn a wasanaethai ar hyd a lled y byd.
Yn ystod y cyfnod hwn y sylweddolodd fod angen cyfundrefn ffurfiol i gynnal bechgyn o Gymru yn y lluoedd arfog.
"Fel golygydd gwelwn yr angen am gorff cenedlaethol yng Nghymru i hyrwyddo'r gwaith - ac fe gafodd hynny gryn gefnogaeth ymhlith cymdeithasau Cymraeg y Dwyrain Canol," meddai.
Wedi'r rhyfel
Hyd yn oed wedi'r rhyfel yr oedd y syniad hwn o dynhau'r cysylltiad rhwng Cymru a'i phlant dramor yn y lluoedd arfog yn dal i gyniwair a'r datblygiad allweddol nesaf oedd cyfarfod a gynhaliwyd ym mhencadlys yr Urdd yn Aberystwyth fis Gorffennaf 1946 gyda (Syr) Ifan ab Owen Edwards ei hun yn bresennol ynghyd 芒 chynrychiolwyr Undeb Cymru Fydd, y Llyfrgell Genedlaethol a chyn filwyr.
O ganlyniad gwahoddwyd T Elwyn Griffiths i baratoi adroddiad ar y ffordd ymlaen a'r adroddiad hwnnw yn galw am gynnwys nid yn unig aelodau o'r lluoedd arfog ond bawb o dras Gymreig ar hyd a lled y byd, arweiniodd yn uniongyrchol at sefydlu Undeb y Cymry ar Wasgar yn 1948 gydag Elwyn yn ysgrifennydd ac, am ddeugain mlynedd, yn olygydd ei gylchgrawn chwarterol Yr Enfys.
Maes o law, newidiodd ei enw yn Undeb Cymru a'r Byd.
Llywyddion
Dewiswyd y cyn Archdderwydd, Elfed, yn llywydd ac fe gyfansoddodd emyn yn arbennig ar ei gyfer:
Arglwydd holl randiroedd daear
Ynot gwna ni oll yn un;
Na ad inni er ar wasgar,
Golli cwmni Mab y Dyn . . .
Fe'i dilynwyd ef gan y Fonesig Megan Lloyd-George ac wedyn gan T Ifor Rees, Syr Ben Bowen Thomas, Alun Williams y 成人论坛, Dr Glyn O Phillips, Clifford Evans, Yr Arglwydd Cledwyn, Syr Alun Talfan Davies, Yr Arglwydd Hooson, Elinor Bennett a chyda'i dymor yn dod i ben eleni, Syr Roger Jones.
O'r cychwyn cyntaf un bu cysylltiad agos gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ac ym Mhenybont-ar-Ogwr yn 1948 y gwelwyd y seremoni gyntaf ar lwyfan y Brifwyl i groesawu Cymry o dramor - y Cymry ar Wasgar - gartref.
Er iddi newid o ran natur mae'r seremoni honno yn parhau yn rhan o weithgarwch y Genedlaethol - er gwaethaf bwlch yn 2006 - a bydd Arweinydd y Cymry tramor ar y llwyfan eleni cyn seremoni anrhydeddu y prif lenor ar y dydd Mercher.
Bydd yr arweinydd hefyd yn bresennol yn y Gymanfa Ganu nos Sul.