Gwenu yn y glaw
Cofio'r wynebau heulog yn hytrach na'r glaw!
Glawio, Gwario a Gwenu
Er i law a mwd wneud cymaint o argraff yn ystod yr wythnos y tebygrwydd yw mai fel "Eisteddfod y Gwenu" yn hytrach nag fel Eisteddfwd y bydd Eisteddfod GenedlaetholCymru Caerdydd a'r Cylch 2008 yn cael ei chofio.
Y gwenau ar wynebau ymwelwyr 芒'r Maes a wnaeth argraff ar Elfed Roberts y Cyfarwyddwr, yn sicr, gan iddo s么n am hynny sawl gwaith yn ystod yr wythnos.
Ac mae'n wir, os nad oedd yr awyr bob amser yn heuluog, yr oedd yr wynebau o bob oed yn rhai heulog iawn.
Cymaint 芒 156,697 o wynebau i gyd yn ystod yr wythnos - bron i ddwy fil yn fwy na'r llynedd (154,944) ac ar y blaen i Abertawe ddwy flynedd yn 么l hefyd (157,697).
A phe byddai'r tywydd wedi dal ar gyfer y Sadwrn does dim amheuaeth na fyddai Caerdydd yn sylweddol well.
Yn 么l y disgwyl, mewn glaw dibaid, dyma ddiwrnod gwaethaf yr wythnos gyda dim ond 15,167 o ymwelwyr o gymharu 芒 19,184 yn Yr Wyddgrug y llynedd, 19,277 yn Abertawe a 19,389 yn Eryri dair blynedd yn 么l.
Arwydd o lwyddiant Caerdydd yw iddi fedru goresgyn y diwrnod gwan hwn - ac mae'n ffodus mae'n debyg mai diwrnod y corau oedd hui a hynny yn sicrhau bod nifer fawr o gystdadleuwyr os nad neb arall ar y maes.
Ond yr arwyddion yw na fydd yn rhaid disgwyl 30 mlynedd arall cyn y bydd y brif 诺yl yn dychwelyd i'r brif ddinas.
Digwyddiadau nodedig
Nid ffigurau yw popeth wrth gwrs a bu sawl digwyddiad nodedig ar y Maes ac yn y Pafiliwn yn ystod yr wythnos ond y mwyaf arbennig o ddigon fu cael Cadeirio gyda chymaint o ddarogan gwae wedi bod oherwydd newyn cadeirio yng Nghaerdydd.
Nid yn unig bu Cadeirio ond cadeiriwyd merch, Hilma Lloyd Edwards - yr ail yn unig yn holl hanes yr Eisteddfod.
Ar ben hynny, dywedodd y beirniaid y gellid fod wedi cadeirio o leiaf dri arall!, gryfed oedd y gystadleuaeth.
Dim rhyfedd i'r Archdderwydd Dic Jones ddweud i "fwgan Caerdydd" gael ei lorio!
Carreg filltir fenywaidd arall yr 糯yl oedd anrhydeddu Mererid Hopwood 芒'r Fedal Ryddiaith - a hynny ar ddydd pen-blwydd un o'i merched yn 18 oed.
Ddiwrnod ei anrhydeddu yr oedd hi yr unig ferch i ennill y Gadair - roedd Hilma eto i ddod - ond mae hi'n dal yr unig ferch i ennill y tair brif wobr lenyddol gan rannu'r anrhydedd honno gyda Gwilym R Jones a Tom Parri Jones, Tom T欧 Pigyn.
Uchelbwyntiau eraill
Enillwyr ifainc y Goron a'r Daniel Owen.
Meirion Wyn Jones, Llangynhafal, Sir Ddinbych, ac aelod o G么r Rhuthun, yn ennill y Rhuban Glas ar yn ail dro.
C么r Meibion Pontarddulais yn fuddugol yng ngystadleuaeth y corau dros 45 o leisiau.
Cordydd yn cael ei ddewis yn G么r yr 糯yl.
Gwenno Glyn, ddeuddeg oed, yn cipio'r Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed.
Sion Ifan yn ennill Gwobr Goffa Richard Burton.
Peiriannau arian yn 么l ar y Maes cael eu colli ers rhai blynyddoedd. Tynnodd Eisteddfodwyr 拢200,000 erbyn bore Sadwrn yn 么l HSBC.