Un o'n cantorion enwocaf, perfformwraig, hyfforddwraig a Bardd Plant Cymru.
Ganed yn 1958 ym Mhrestatyn ar aelwyd gerddorol. Mae ei thad, Rhys Jones, yn fwy adnabyddus fel cyflwynydd cerddoriaeth ar y radio a bu am flynyddoedd yn gyflwynydd Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Bu hefyd yn feirniad cerdd ac arweinydd corau. Roedd ei mam, Gwen, yn hyfforddi plant lleol ar gyfer cyngherddau ac eisteddfodau. Wedi ei magu mewn awyrgylch a bwrlwm fel hwn, does ryfedd i Caryl etifeddu dawn mor rhyfeddol.
Mynychodd Ysgol Mornant, Ffynnon Groyw ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy a Phrifysgol Cymru, Bangor, lle'r astudiodd y Gymraeg a Chymdeithaseg.
Tra yn yr ysgol, ffurfiodd y band Sidan. Gyda'u harmon茂au clos a chaneuon swynol fel 'Ble'r ei di?' ac 'Ai Cymro Wyt Ti?', daeth y band yn boblogaidd yn fuan iawn gan chwarae mewn cyngherddau a nosweithiau llawen o F么n i Fynwy.
Rhyddhawyd dwy record fer ac un record hir gan Sidan, sef 'Teulu Yncl Sam'. O ystyried oed y genod, roedd yn record aeddfed a rhagorol, sy'n parhau i swnio'n ffres fwy na chwarter canrif yn ddiweddarach.
Tra roedd yn y coleg, ymunodd 芒'r 'supergroup' Cymraeg cyntaf, Injaroc. Roedd yr aelodau yn cynnwys y rhelyw o gyn-aelodau Edward H, Endaf Emlyn a Geraint Griffiths. Er na pharhaodd y gr诺p am fwy na naw mis a llond llaw o gigs, rhyddhawyd un record 'Halen y Ddaear', sy'n tystio i botensial aruthrol y gr诺p. Roedd hefyd yn gam pwysig iawn yn natblygiad cerddorol Caryl, a chafodd un o'i chaneuon oddi ar yr albym, 'Calon', ailwampiad disgo gan y band Diffiniad yn y 1990au.
Ar 么l gadael y coleg, dechreuodd Caryl gyflwyno rhaglenni fel y rhaglen blant Bilidowcar a'r gyfres bop, S锚r 2. Yn ystod yr un cyfnod, ffurfiodd Bando gyda gr诺p o gerddorion Caerdydd, a hithau'n brif leisydd. Rhyddhawyd eu record hir cyntaf, 'Hwyl ar y Mastiau' yn 1980, a oedd yn cynnwys y clasur 'Space Invaders'.
Roedd adleisiau o reggae a ffync Injaroc i'w glywed yn y cyd-chwarae, ac roedd ail albym Bando 'Shampw' (1982) yn dilyn y trywydd hwnnw hefyd. Ar y record honno y mae'r g芒n a gysylltir amlaf 芒 Caryl, 'Chwarae'n troi'n chwerw'.
Pan chwalwyd Bando, dechreuodd Caryl berfformio o dan yr enw Caryl a'r Band, a pharhaodd i gyflwyno rhaglenni teledu. Bu'n actio yn y ffilmiau Gaucho (1983) a The Mimosa Boys (1983), ond nid oedd actio'n str锚t yn mynd 芒'i bryd.
Ysgrifennodd sgript a chaneuon Y Dyn Nath Ddwyn y Nadolig (1985) ar y cyd 芒 Hywel Gwynfryn, ffilm i blant a dderbyniodd gryn glod ac a ddaliodd yn nychymyg ieuenctid Cymru.
Cafodd gyfle i arddangos ei doniau dynwared aruthrol yn y gyfres Dawn, a dyma gyflwyno cymeriadau Glenys, Lavinia a Delyth i'r byd! Yn dilyn hynny, perfformiodd mewn pedair cyfres ei hun (Caryl, 1983-1987) a oedd yn gyfuniad o berfformiadau cerddorol a sgetsys. Y cymeriadau hyn oedd y sail ar gyfer y ffilmiau Ibiza, Ibiza! (1986) a Steddfod, Steddfod (1989), gyda chymorth Siw Hughes ac Emyr Wyn.
Heb os, roedd seren ddisgleiriaf Cymraeg S4C yn yr 1980au wedi dod o hyd i'w llais y tu allan i'r stiwdio recordio, ac mae'r cymeriadau hyn wedi eu serio ar gof cenhedlaeth o wylwyr.
Dydi Caryl byth ymhell iawn o'r sgr卯n deledu, ac yn fwy diweddar, bu'n hyfforddi tu 么l i'r llwyfan ar y gyfres Wawffactor ar S4C. Mae'n parhau i chwarae'n fyw gyda'i band newydd, Y Milion锚rs, a rhyddhaodd albym newydd 'Adref' (2005), a gafodd groeso ymysg ei chefnogwyr ffyddlon.
Mae bellach yn byw yn y Bont-faen y tu allan i Gaerdydd lle mae wedi magu ei theulu gyda'i g诺r Myfyr Isaac.
Cyfraniad arbennig
Cydnabyddwyd cyfraniad Caryl i'r byd cerddorol yng Nghymru a'i brwdfrydedd wrth gyfrannu at ei ffyniant pan enillodd wobr cyfraniad arbennig i gerddoriaeth yng Ngwobrau Roc a Phop (RAP) 成人论坛 Radio Cymru 2007.
Meddai'r DJ Ian Cottrell, a oedd yn cyflwyno'r wobr iddi yn y seremoni yn Venue Cymru, Llandudno : "Dwi'n ffan 'masif' o Caryl a nes i dyfu lan gydag Injaroc a Bando. Mae hi'n gyfansoddwraig anhygoel ac iddi hi mae'r diolch am dynnu cerddoriaeth Gymraeg y 70au i mewn i'r 80au. Roedd ei phroffesiynoldeb hi wrth gynhyrchu yn gosod y safon i grwpiau eraill, ac mae'n dal i wneud hynny heddiw.
"Hi yn fwy na neb ddaeth 芒 dylanwad Americanaidd disco, ffync a soul i gerddoriaeth Gymraeg gan eu lapio mewn parsel pop mainstream. Ei ch芒n hi oedd Calon ac roedd yn gr锚t mod i a Diffiniad wedi gallu ail-ryddhau'r clasur pop."
Bardd Plant
Yn Eisteddfod yr Urdd Sir G芒r 2007 cafodd Caryl ei gwneud yn Fardd Plant Cymru ar gyfer 2007-2008, yr wythfed person i ddal y swydd.
Yn aelod o d卯m beirdd Y Taeogion sy'n cystadu'n gyson ar raglen barddoni 成人论坛 Radio Cymru, y Talwrn, dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at y gwaith: "Does dim yn fwy deniadol, gonest a byw na dychymyg plentyn ac mae cael cyfle i grwydro drwy'r tiroedd breision hynny yn ddim llai na braint. Dwi'n gobeithio cael oriau o hwyl a sawl agoriad llygad," meddai.
Cliciwch yma i gael stori Caryl yn Fardd Plant Cymru yn llawn