Bardd, milwr ac un o feistri'r canu mawl
Roedd y bardd a adwaenir fel Guto'r Glyn yn un o feistri mwyaf y canu mawl ac mae ei waith yn nodweddiadol o farddoniaeth Gymraeg y bymthegfed ganrif ar gyfrif ei ffraethineb dengar a'i arddull gwbl rhwydd a naturiol. Ganwyd ef ym 1440. Nid oes sicrwydd ym mha le y ganwyd ond fe'i cysylltir 芒 Glyn Ceiriog yn Sir Ddinbych, lle trigai rhai o'i noddwyr.
Nid oes pendantrwydd, ychwaith, ynglyn 芒 chynnwys ei farddoniaeth, gan fod nifer o gywyddau cynnar wedi eu priodoli i ryw Guto ap Siancyn y Glyn, er bod rhai ysgolheigion o'r farn mai'r un dyn oedd y ddau.
Canodd Guto i amryw noddwr, yn eu plith, Edwart ap Dafydd o Fryncunallt a Sion Edwart o'r Plasnewydd, a rhai eraill megis y Pilstyniaid ym Maelor Cymraeg a Si么n Hanmer ym Maelor Saesneg.
Y bardd-filwr
Ei gerddi mwyaf cofiadwy, yn ddi-os, yw'r rhai sy'n gysylltiedig 芒'i yrfa milwrol - ffaith a'i wnaeth yn atyniadol i Saunders Lewis.
Yn Rhyfeloedd y Rhosynnau roedd yn bleidiwr i Iorc ac i Syr William Herbert, Iarll Penfro, yn arbennig.
Canodd i'r Brenin Edward IV a hefyd i ddau filwr a'u henwogodd eu hunain ar faes y gad yn Ffrainc, Syr Richard Gethin a Mathau Goch (Mathew Gough) a garcharwyd gan y Ffrancwyr.
Yn ei gerddi i William Herbert dangosodd yn glir ei fod yn ystyried bod lles Cymru yn fater pwysicach na buddiannau plaid, gan erfyn ar yr Iarll i beidio gadael i'r Saeson ddisodli'r beirdd o'u swyddi traddodiadol.
Yn ogystal, canodd nifer o gerddi meistrolgar yn gofyn ac yn diolch am anrhegion, a chymerodd rhan mewn ymrysonau gyda beirdd eraill megis Dafydd ab Edmwnd a Thudur Penllyn. Gwyddai sut i gellwair yn ddireidus ac i wneud hwyl ar draul beirdd eraill.
Ceir saith o'i gerddi gwychaf ym Mlodeugerdd Rhydychen (gol. Thomas Parry).
Bu farw tua 1493 ac fe'i claddwyd yn mynachlog Glynegwestl neu Glyn y Groes (Valle Crucis) yng nghwmwd I芒l.
Meic Stephens