Un o feirdd mawr olaf y traddodiad canu-caeth uchelwrol
Yng ngwaith Tudur Aled y gwelwyd eithafbwynt y traddodiad mawl yn yr Oesoedd Canol. Roedd ganddo feistrolaeth lwyr ar y gynghanedd, defnyddiodd ddelweddaeth draddodiadol a newydd fel ei gilydd, ac yn ei gerddi aeddfed gwelir personoliaeth urddasol a sensitif.
Wedi ei farw, dirywiad prysur a welwyd yn niwylliant Cymru, yn enwedig yn y grefft farddol.
Cefndir uchelwrol
Ganwyd Tudur Aled tua 1465 ym mhlwyf Llansannan yn Sir Ddinbych, ac ei athro barddol, mae'n debyg, oedd ei ewythr Dafydd ab Edmwnd.
Roedd e'n un o gomisiynwyr Eisteddfod Caerwys ym 1523.
Perthyn i'r uchelwyr, felly, oedd y bardd, mewn ardal a oedd yn un nodedig am Farddas, a thystia rhai o'r marwnadau a genid iddo mai dyn a wisgai'n dda ydoedd.
Ymddenegys ei fod o gorff cadarn, yn farchog da ac yn fabolgampwr.
Yn ystod ei waeledd olaf cymerodd abid mynach o Urdd Sant Ffransis a bu farw tua 1525 yng Nghaerfyrddin a'i gladdu yno yng Nghwrt y Brodyr.
Ei farn amdano'i hun
Yn 么l un o'r traddodiadau a ledaenwyd amdano wedi i Tudur Aled farw, mae'r ymddiddan rhyngddo a Thomas Pennant, abad Dinas Basing.
Mewn ateb i gwestiynau'r abad, dywedodd Tudur mai Dafydd ab Edmwnd oedd y gorau ar yr awdl, Guto'r Glyn ar y cywydd mawl, a Dafydd ap Gwilym ar y cywydd serch, ond ei fod ef ei hun wedi canu awdl well na Dafydd ab Edmwnd, a chywyddau mawl a serch gwell na Guto'r Glyn a Dafydd ap Gwilym.
Cadwyd tua chant a phump ar hugain o'i gywyddau, yn eu plith oddeutu pedwar ugain a phump yn rhai mawl.
Cofnodai achau yn ei gerddi yn fwy cyson na bron neb o'i gyfnod.
Canodd nid yn unig i deuluoedd brodorol Cymreig ond hefyd i deuluoedd y Gororau.
Ond ei brif noddwyr oedd Salbriaid Lleweni ger Llansannan.
Cafodd yr Eglwys le canolog yn ei ganu, gydag o gwmpas ugain cerdd i w欧r eglwysig.
Mae Blodeugerdd Rhydychen (gol. Thomas Parry) yn cynnwys y cerddi canlynol: 'Gofyn March gan Abad Aberconwy dros Lewis ap Madog'; 'I Wiliam ap Si么n, Cwnstabl y Waun'; 'Tref Crososwallt'; 'Cywydd Cymod Hwmffre ap Hywel ap Siencyn a'i Geraint'; a 'Marwnad Si芒n Stradling'.
Gwelir cof-golofn i Dudur Aled, William Salesbury, ac eraill yng nghanol Llansannan.
Meic Stephens.