Pentref mwyaf Cymru
Mae llinell olaf englyn Eilir Aled - "Beibl a rhaw i bobl y Rhos." yn cyfleu i'r dim y cyfuniad o grefydd, diwylliant a diwydiant sy'n wythiennau mor hanfodol yn hanes Rhosllanerchrugog, a ddisgrifiwyd yn y gorffennol fel "pentref mwyaf Cymru".
Mwyaf nid yn unig o ran ei faint daearyddol ond o ran ei ddoniau a'i gyfraniad hefyd ac nid yw'n gyfrinach fod peth cenfigen cyfeillgar ymhlith trigolion pentrefi eraill yr ardal tuag at Y Rhos.
Ac yn y gorffennol - a dydi o wiw dim ond sisial hyn - bu trigolion y Rhos yn ymylu ar fod yn euog o edrych gyda rhywfaint o ddirmyg ar drigolion pentrefi cyfagos fel y Cefn, Coedpoeth a Phonciau!
Beth bynnag am hynny, y mae gan Y Rhos yr enw ledled Cymru am fod yn ffwrnais diwylliant a diwydiant gyda'i draddodiad glofaol ar y naill law a'i bwyslais ar addysg a chrefydd a chanu cynulleidfaol a chorawl ar y llaw arall gyda Ch么r y Rhos yn parhau yn un o rai enwocaf Cymru.
Fel y dywed englyn Eilir Aled wrth grynhoi'r lle yn ei englyn sydd i'w weld ar arwydd yng nghanol y pentref:
Enwog le mae'r awen glos - a chrefydd
Uwch rhyfyg yn aros.
Hedd engyl yn ymddangos,
Beibl a rhaw i bobl y Rhos.
Er mai ar gefn y chwyldro diwydiannol y tyfodd y Rhos darganfuwyd glo yn yr ardal mor gynnar 芒 dechrau'r ddeunawfed ganrif ac yr oedd pyllau ar waith yn negawd cyntaf y 1700au.
Wrth i'r chwyldro diwydiannol afael, fodd bynnag, symudodd pobl i'r ardal wrth eu miloedd o wahanol rannau o Gymru a Lloegr gyda charfan gref o Swydd Gaerhirfryn.
Esgorodd y gymysgedd o gefndiroedd a thraddodiadau ar gymdeithas arbennig iawn fel ag yng nghymoedd glofaol y de.
Mae'r Rhos yn lle sydd wedi newid yn arw erbyn hyn gyda'r glo, y tramffyrdd, y rheilffordd a'r gweithfeydd a oedd yn gymaint rhan o'i fwrlwm cynt wedi diflannu.
Y Stiwt
Tebyg mai'r arwydd gweladwy amlycaf, yn awr, o'r gogoniant a fu yw hen adeilad mawreddog Sefydliad y Mwynwyr - Y Stiwt, ar dafod leferydd yn lleol - sydd nid yn unig yn dal ar ei draed ond wedi ei adnewyddu drwyddo draw a hynny yn arwydd fod y dycnwch a'r dyfalbarhad a berthynai i'r hen Rosllanerchrugog yn parhau ymhlith y trigolion heddiw.
Tafodiaith unigryw
Nid yn unig y mae i'r Rhos ei gymeriad ei hun ond y mae iddo ei Gymraeg ei hun hefyd a hynny wedi ei adlewyrchu yn enw papur bro yr ardal, Nene - y gair lleol am "y peth yna" neu hwnna.
Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal mae "ene" a "dene" hefyd yn eiriau cyffredin.
Heb amheuaeth y mae dylanwad tafodieithoedd yr holl gymysgedd o bobl a symudodd i'r ardal yn drwm ar Gymraeg y Rhos ac yn enghraifft wiw o allu'r Gymraeg yng nghyfnod y mewnlifiad hwnnw i ymaddasu a chofleidio geirfa estron i'w dibenion ei hun.
Weithiau mae'r tarddiad yn gwbl amlwg fel yn shifftio am symud, sbarins am weddillion, meindio am wylio, grinio am wenu a'r hyfryd biwshio (o abuse) am roi cweir i rywun.
Dro arall dydi'r tarddiad ddim mor amlwg ac nid pawb a fyddai'n sylweddoli mai estyn cynnig ichi arogli rhywbeth fyddai rhywun wrth ddweud "gwinsia hwn."
Mae'n amlwg fodd bynnag o lle daeth gair Y Rhos am flodau, rhose, a gellir olrhain tarddiad swinjo am llosgi i'r gair Saesneg singe a hyd yn oed pegis am ddannedd.
Nid mor hawdd canfod sut mae lode yn golygu coesau (aelodau, mae'n debyg) ac y mae mlenio am golli tymer yn gywasgiad gwych o "fileinio" fel ag yw nafyd am anafu neu frifo rhywun.
Mae rhywbeth yn ddeniadol yn y duedd o roi 'h' o flaen rhai geiriau gan roi ffurfiau fel hamdwyo, hedins (adenydd) a henw.
Mae rhai geiriau yn onomatopeaidd iawn fel bwlragio am weiddi'n flin a bleiddio a recsho am weiddi a chodi helynt.
Ond un peth sy'n gwbl sicr ym meddyliau pobl y Rhos yw fod pentref mwyaf Cymru yn lle gwirioneddol gwerth weil!
Cliciwch yma i ychwanegu eich geiriau tafodieithol unigryw chi at ein rhestr ar-lein.