Yn ogsytal a chyflwyno rhaglen nosweithiol ar Radio Cymru, mae Geraint Lloyd yn parhau yn weithgar o fewn mudiad y Ffermwyr Ifanc.
Fe ymunodd gyda chlwb Lledrod yng Ngheredigion pan oedd yn 14 oed ac wedi dal nifer o swyddi o fewn y gangen.
"Mae gan y Ffermwyr Ifanc ystod eang o weithgareddau," meddai Geraint.
"Nid cefndir amaethyddol yw e bellach - mae'r aelodau yn dod o bob cefndir
"Ac maent yn cael cyfleon i siarad, cystadlu a theithio."
Bydd Geraint ym Mhafiliwn Corwen ar Dachwedd 17 yn cyflwyno darllediadau Radio Cymru.
"Un peth am 'Steddfod Ffermwyr Ifanc yw does neb yn gorfodi iddynt fod yno - mae nhw moi'n bod yno," meddai Geraint.
"Mae'r Eisteddfod Sir i gyd gyntaf a bydd miloedd wedi cystaldu cyn dod i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghorwen.
"Mae pob clwb yn gwneud eu rhan a be' sy'n dda am 'Steddfod yw bod aelodau o pob oedran yn gallu cymryd rhan.
"Er bod hi'n eitha' cystadleuol, mae hefyd fel Noson Lawen gyda pobl yn edrych 'mlan i fynd i 'Steddfod Ffermwyr Ifanc i gael eistedd yn y gynulleidfa a mwynhau.
"Mae 'na eitemau gwahanol i be fydde' hi'n gael mewn Eisteddfodau cyffredin fel eitemau digri' fel dawnsio a meimio."
Bydd darllediad Radio Cymru, gyda Geraint Lloyd a Rebecca Jones yn cyflwyno, yn dechrau am 8yh nos Sadwrn.
|