"Roeddwn yn cystadlu yn yr 糯yl Gerdd Dant pan oeddwn yn iau ac fe wnes i ennill unwaith yng Nghaerfyrddin.
"Cystadleuaeth yr Alaw Werin dan ddeuddeg ydoedd, ar y darn 'Hen Fenyw Fach a Basged o Wyau.'
"'Dwi'n cofio derbyn y tlws bach sydd gennyf o hyd.
"Mae yna rywbeth braf am yr 糯yl Gerdd Dant.
"Mae mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol a'r Urdd yn gr锚t ond mae'r 糯yl Gerdd Dant yr adeg yma yn gorffen y flwyddyn.
"'Dwi wedi bod yn darlledu o'r 糯yl ers tua wyth mlynedd. I ddechrau roeddwn yn holi'r cystadleuwyr gefn llwyfan fel yr wyf yn ei wneud yn yr Urdd a'r Genedlaethol.
"Ond ers pum mlynedd mae gennyf westeion gyda mi o amgylch y bwrdd ac eleni bydd Aled Lloyd Davies, Eleri Davies a Rhiannon Lewis yn ymuno gyda mi ar y nos Sadwrn.
"Bydd rhaglen pigion o'r 诺yl yn cael ei darlledu fore Sul, Tachwedd 12 ac yn honno byddwn yn edrych yn 么l ar rai o'r cystadlaethau.
"Mi fydd merch o'r ardal, Helen Wyn, gyda mi ar y bore Sul." Meddai Nia Lloyd Jones cyn y cystadlu.
"Mae'r Stiwt yn lle da i gynnal yr 糯yl Gerdd Dant ac mae criw ffyddlon a gweithgar wedi bod wrthi'n trefnu.
G诺yl Gerdd Dant
Dydd Sadwrn, 11 Tachwedd, 7.15pm
Pigion o'r 糯yl
Dydd Sul, 12 Tachwedd, 10.15am Os ydych chi'n colli'r rhaglenni hyn, cofiwch y gallwch chi Wrando Eto o wefan Radio Cymru.
|