Dyna a ddatgelwyd mewn un o nifer o raglenni a ddarlledwyd ar S4C ym mis Tachwedd 2006 yn dathlu'r elfen hon o'n diwylliant.
Roedd Y Werin Bobl, rhaglen ddogfen yn nodi canmlwyddiant Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, yn adrodd sut y cyflwynodd Edison ei hun ei ddyfais newydd, y ffonograff, i'r Gymdeithas a alluogodd iddi gasglu ynghyd yn rhwydd ganeuon ac alawon a fyddai wedi mynd yn angof fel arall.
Roedd y rhaglen hefyd yn cyflwyno ymchwil Dr Meredydd Evans a Phillis Kinney sy'n dangos mai c芒n 芒'i gwreiddiau yn America yw'r enwog "Moliannwn" a bod y fersiwn wreiddiol yn g芒n hynod o drist.
Cafodd y r么l allweddol chwaraeodd merched yn y casglu, gan gynnwys merched di-Gymraeg, ei olrhain hefyd, ac ymhlith cyfranwyr eraill y rhaglen roedd y Dr Roy Saer, a deithiodd pob cwr o Gymru yn cofnodi caneuon.
Ymysg y cantorion a glywyd yn ystod y rhaglen oedd Arfon Gwilym, Gwyneth Glyn, Gwilym Morus, Linda Griffiths a Richard James, cyn-aelod o'r band Gorky's Zygotic Mynci.
Meddai Angharad Anwyl, cynhyrchydd Y Werin Bobl, "Heb ymdrechion arwrol sylfaenwyr y Gymdeithas ganrif yn 么l, mae'n bur debyg y byddai llawer o'n caneuon gwerin hyfrytaf wedi mynd i ebargofiant."
|