"Mae enw C么r Meibion Y Rhos a chanu corawl ar ei orau yn gyfystyr trwy'r byd i gyd ers i'r c么r gael ei sefydlu gan Richard Mills ym 1891.
"Ers hynny mae cynulleidfaoedd ym Mhrydain ac mewn llawer o wledydd eraill wedi cael eu swyno gan sain unigryw'r c么r o bentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam.
"Yn ychwanegol mae recordiau a cryno ddisgiau'r c么r wedi cael ei werthu ledled y byd ac mae carwyr cerddoriaeth dda yn cael cyfle i glywed y c么r yn aml ar y radio a'r teledu.
"Maent wedi cael llwyddiant mewn nifer o gystadlaethau dros y blynyddoedd yn cynnwys bod yn C么r y Flwyddyn y 成人论坛 dwywaith ac ennill y brif wobr dwywaith yng Ng诺yl Gerddoriaeth Gymru HTV.
"Roeddynt yn fuddugol yn erbyn 112 o gorau eraill yn W欧l Gerdd Glarner yn Y Swisdir ac maent wedi bod yn llwyddiannus sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Yn ychwanegol maent wedi ennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a bydd y c么r yn cymryd rhan yn y cyngerdd i ddathlu pen-blwydd yr w欧l yn 60 oed.
"Mae'r c么r wedi teithio'n aml i lefydd fel Unol Daleithiau America, Canada, Yr Almaen, Y Swisdir, Yr Eidal ac i Baris a chael derbyniad da lle bynnag maent wedi ymddangos. Ym mis Hydref byddent yn ymweld 芒 Sbaen gydag un cyngerdd o'r tri yng Nghadeirlan Granada.
"Mae C么r Meibion y Rhos yn ymfalch茂o yn y ffaith bod eu rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth amrywiol o wahanol gyfnodau, megis emyn donau, caneuon o'r sioeau, baledi ac eitemau o fyd yr opera - yn wir, rhywbeth i bawb.
"Heb amheuaeth mae'r c么r yn boblogaidd iawn, er enghraifft mae pob un o'u cyngherddau'r flwyddyn hon wedi bod o flaen cynulleidfa lawn.
"Gwerthwyd holl docynnau Cyngerdd Blynyddol y c么r yn Wrecsam fis Hydref diwethaf bum mis cyn y noson - Katherine Jenkins oedd yr unawdydd gwadd - ac mae'r c么r wedi canu gyda Bryn Terfel hefyd.
"Y tenor Rhys Meirion fydd yr unawdydd yn y Cyngerdd Blynyddol nesaf ar nos Sadwrn, Tachwedd 18, a bydd y pianydd disglair, oedd unwaith yn cyfeilio i'r c么r, Ll欧r Williams hefyd yn cymryd rhan. Afraid yw cyhoeddi bod y tocynnau am y cyngerdd yn brin iawn.
"Cyfarwyddwr Cerdd y c么r ers mis Ionawr, 2005, yw John A. Daniel, un sy'n brofiadol iawn mewn cerddoriaeth o bob math. Graddiodd o'r Coleg Cerdd Brenhinol ym Manceinion ac mae'n beirniadu mewn eisteddfodau.
"Yr Is-Gyfarwyddwr Cerdd a'r cyfeilydd yw Kevin Whitley, sydd 芒 gradd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Cymru yng Nghaerdydd.
"Mae croeso'n aros i unrhyw un i ymuno 芒 Ch么r Meibion y Rhos. Mae'r ymarferion yn cael eu cynnal yng Nghlwb yr Hafod yn y Rhos pob nos Lun rhwng 7.15 a 9.15pm a phob nos Iau yn Y Stiwt yr un amser.
"Cadeirydd y c么r yw J. Norman Davies (01829) 270210 a'r ysgrifennydd yw J. Raymond Jones (01978) 845219."