"Ffurfiwyd y clwb yn Ionawr 1943 yng Nghapel Mawr yn Rhos, yn wreiddiol fel t卯m ieuenctid.
"Mae'r clwb wedi cael cryn lwyddiant yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf, y llwyddiant cyntaf oedd ennill Cwpan Pantyfedwen, Urdd Gobaith Cymru ym 1955, eu chweched rownd derfynol yn olynol.
"Wedi uno gyda Aelwyd Ponciau, bu i Rhos Aelwyd ym 19958/59 dan arweiniad Meirion Powell gwblhau'r 'dwbwl' - y gynghrair a'r gwpan - yn Ail Adran y Welsh National League.
"Sicrhaodd Yr Aelwyd y 'dwbwl' yn ystod tymor 1982-83 gan ennill y Gynghrair a Cwpan yr Ail Adran dan arweiniad Arthur Lewis. Daeth buddugoliaeth enwocaf y clwb yng Nghwpan Barritt ym 1986.
"Gyda Peter Davies yn reolwr, enillodd yr Aelwyd eu holl gemau oddi cartref yn y gwpan. Yn y rownd derfynol ym Mae Colwyn, roedd Rhos Aelwyd yn fuddugol yn erbyn Caernarfon mewn ciciau o'r smotyn.
"Ym 1992, oherwydd brwdfrydedd a gweledigaeth y rheolwr Andrew Williams a pwyllgor cryf, fe wnaeth Rhos gais llwyddiannus i ymuno 芒'r Gynghrair Undebol.
"Yn anffodus fe ddisgynnodd y clwb ym 1997 a dychwelyd i'r Welsh National League Ar hyn o bryd mae gan yr Aelwyd ddau d卯m h欧n - y t卯m cyntaf sy'n cael ei reoli gan Tony Williams a'r ail d卯m, sy'n cael eu rheoli gan John Wright a George Jones.
"Parc Ponciau yw cartref y timau hyn ac mae lluniaeth i'w gael wedi'r gemau yn y Stiwt, ble roedd y chwaraewyr yn newid cyn gemau flynyddoedd yn 么l.
"Mae'r Aelwyd yn glwb gyda dyheadau i ddychwelyd i'r Gynghrair Undebol.
"Mae'r pwyllgor yn gymysgedd o aelodau sydd wedi bod yn gysylltiedig gyda'r clwb ers tair degawd a aelodau ifanc brwdfrydig sydd yn rhan o'r adran iau. Mae dyfodol yr Aelwyd yn edrych yn addawol iawn."
|